Cost of Living Support Icon

 

Masnachwr moduron yn disgrifio ceir anniogel yn anwir a'u gwerthu

Cafodd tri dyn eu herlyn gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir am werthu ceir anniogel a’u disgrifio’n anghywir.

 

  • Dydd Iau, 26 Mis Ebrill 2018

    Bro Morgannwg



 

Roedd Autobuy Cardiff Limited yn fusnes gwerthu ceir yn 182-190 Barry Road, y Barri.  Yn ôl Safonau Masnach, roedd y busnes wedi gwerthu cerbydau gan  ddisgrifio eu cyflwr, nifer y perchnogion, gwarantiad, MOT a statws treth ffordd yn anghywir.  Roedd rhai o’r ceir yn anniogel ac yn beryglus.

 

Mr. Zahid Rasul oedd cyfarwyddwr y cwmni ac roedd ei fab, Abdullah Rasul wedi’i gyflogi fel rheolwr. Honnodd yr erlyniaeth, fodd bynnag, fod y ddau berson yn gweithio dan gyfarwyddyd a rheolaeth Mr. Nasser Asfi, ac yntau wedi'i wahardd rhag cael rôl ffurfiol yn y busnes yn sgil ei hanes. Bu'n destun Gorchymyn Ymddygiad Troseddol sy'n cyfyngu ar weithgarwch yn dilyn erlyniad gan Gyngor Bro Morgannwg yn 2015.

 

Methodd y dynion â rhoi gwybod i ddarpar brynwyr bod rhai cerbydau wedi'u barnu’n ddiwerth gan gwmnïau yswiriant, a chyhoeddodd staff adolygiadau cadarnhaol ffug am berfformiad y busnes.

 

Ar 1 Chwefror 2018, plediodd Mrs Zahid Rasul yn euog i dair trosedd o gyflenwi cynnyrch peryglus dan Reoliadau Diogelwch Cynnyrch 2005 ac i chwe throsedd o ymarfer masnachol annheg dan amddiffyniad i ddefnyddwyr yn Rheoliadau Masnachu Annheg 2008.

 

dodgy car sold

Plediodd Mr Abdullah Rasul yn euog i un cyhuddiad o dwyll ac un cyhuddiad o gyflenwi cynnyrch peryglus dan

Reoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol 2005.

 

 

Clywodd y llys ble lliniaru gan Mr Zahid Rasul, sef bod Mr Zahid Rasul mewn cyflogaeth, bod ganddo bryderon iechyd a bod yntau a'i wraig wedi gwahanu oherwydd yr achos hwn. Dim ond 17 oed roedd Mr Abdullah Rasul adeg cyflawni’r troseddau ac mae yn y coleg ar hyn o bryd ac yn byw gyda’i rieni.

 

 

I gloi, dywedodd y Barnwr Neil Bidder wrth y llys fod y diffynyddion wedi "camarwain cwsmeriaid yn fwriadol a gwerthu ceir peryglus iddyn nhw".

 

 

Roedd Abdullah Rasul wedi postio adolygiad cadarnhaol ffug o’r busnes ar Facebook i ddenu cwsmeriaid. Roedd Zahid Rasul wedi gwerthu ceir peryglus a gwarantiad diwerth.

 

Roedd cwsmeriaid wedi cael gwybodaeth anwir ac roedd aelodau o’r cyhoedd wedi colli symiau mawr o arian. Roedd y ceir mewn cyflwr peryglus ac ni ddylen nhw erioed fod wedi cael eu hysbysebu ar gyfer eu gwerthu heb rybuddion clir eu bod yn 'ddiwerth'.

 

 

Derbyniodd y barnwr mai rhan yng nghynllwyn Mr Asfi yn unig oedd Zahid Rasul, ond ei fod wedi rhoi esiampl wael i'w fab.

 

 

Cafodd Abdullah Rasul ddedfryd o orchymyn cymuned 12 mis am bob trosedd i'w cyflawni'r un pryd, ac i gyflawni gwaith di-dâl am 80 awr. Cafodd ei orchymyn hefyd i dalu iawndal i'r dioddefwr o £85.00.

 

 

Cafodd ei dad, Zahid Rasul, ddedfryd carchar am bob trosedd, ohiriedig am 18 mis. Cafodd orchymyn i ymgymryd â gofyniad gweithgaredd Adsefydlu am saith diwrnod a gwaith di-dâl am 150 awr. Rhaid iddo dalu iawndal dioddefwr o £115. Cafodd Zahid Rasul orchymyn i dalu Gorchmynion Iawndal i tri dioddefwr, sef cyfanswm o £1272.

 

 

Ar 1 Chwefror 2018, plediodd Mr Nasser Asfi'n euog i un cyhuddiad o dorri termau gorchymyn ymddygiad troseddol. Methodd â mynd i’r llys ar ddau achlysur, ac oherwydd hynny gwnaeth y barnwr ohirio'r achos tan 3 Mai 2018. Bydd y barnwr yn dedfrydu Mr Asfi yn ei absenoldeb os na fydd yn dod i'r llys ac os gall yr erlyniaeth ddangos bod camau wedi'u cymryd i gysylltu ag ef ym mhob man preswyl hysbys.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Hunter Jarvie, aelod o Gydbwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: “Roedd yn gwbl warthus y ffordd y gwnaeth Mr Asfi ddiystyru diogelwch defnyddwyr y ffordd. Manteisiodd yn ddidrugaredd ar ddau berson er ei fudd ei hun, gan gynnwys bachgen 17 oed. Mae ein Tîm Safonau Masnach yn gweithio’n ddiflino i roi'r gyfraith ar waith yn achos yr unigolion hyn ac mae'n bleser gennym na chafodd neb ei anafu o ganlyniad i'r defnydd o'r cerbydau hyn y mae'n amlwg nad oedden nhw'n addas i'w gyrru.

 

 “Rydym ni’n annog trigolion i brynu car yn eu hamser eu hunain - os yw'r disgrifiad o'r car yn swnio'n rhy dda i fod yn wir, dyna'r achos mwy na thebyg. Gwnewch y gwiriadau ar-lein yn y lle cyntaf i weld p’un a fu mewn damwain neu p’un a oes taliadau i’w gwneud arno. Mae modd gwneud y gwiriadau hyn ar eich ffôn neu eich llechen gyda'r rhif cofrestru cerbyd. Dim ots faint o bwysau y mae'r masnachwr yn ei roi arnoch chi i brynu cerbyd, gwnewch y gwiriadau'n gyntaf. Fyddwch chi ddim yn ei ddifaru.”