Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 03 Mis Ebrill 2018
Bro Morgannwg
Barri
Penarth
Croesawyd Maer Bro Morgannwg, y Cyng. Janice Charles ac aelodau o'r gynulleidfa i’r theatr gan y perchenogion a’r consuriwyr, Jasper Blakeley a Bryan Gunton, ar ddydd Iau 15 Mawrth ar gyfer digwyddiad codi arian.
A hithau’n mesur dim ond 16 troedfedd x 9 troedfedd, agorodd y theatr ar 2 Chwefror eleni, ac mae lle ynddi i gynulleidfa o 20 o bobl. Mae'n cynnal sioeau sy’n cynnwys perfformwyr gwadd, cerddoriaeth a chomedi yn rheolaidd.
Roedd Maer Bro Morgannwg, y Cyng. Janice Charles, yn bresennol yn y digwyddiad yn y theatr i godi arian i dîm rygbi iau Penarth. Dywedodd Maer Bro Morgannwg, y Cyng. Charles: “Mae theatr The Small Space yn adnodd cymunedol gwych y dylid ei chefnogi a’i hannog yn y Fro. Rwy'n falch iawn o fod wedi bod yn bresennol yn y digwyddiad hwn er budd tîm rygbi Penarth ac rwy'n dymuno pob hwyl iddyn nhw ar eu taith."
Roedd Maer Bro Morgannwg, y Cyng. Janice Charles, yn bresennol yn y digwyddiad yn y theatr i godi arian i dîm rygbi iau Penarth.
Dywedodd Maer Bro Morgannwg, y Cyng. Charles: “Mae theatr The Small Space yn adnodd cymunedol gwych y dylid ei chefnogi a’i hannog yn y Fro. Rwy'n falch iawn o fod wedi bod yn bresennol yn y digwyddiad hwn er budd tîm rygbi Penarth ac rwy'n dymuno pob hwyl iddyn nhw ar eu taith."
Dywedodd y perchenog, Jasper Blakeley : “Codon ni £300 ar y noson a chyfanswm o fwy na £11,000 dros y flwyddyn a aeth heibio, i helpu ariannu taith tîm dan 16 oed Penarth. Mae fy mab yn aelod o’r tîm ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at y daith. “Mae’r ymateb gan y masnachwyr a chynulleidfaoedd wedi bod yn wych, a does dim un tocyn ar ôl ar gyfer ein digwyddiadau ym mis Ebrill. Mae pobl wedi dod o leoliadau mor bell â Chasnewydd a Bryste i weld y sioeau, allwn ni ddim bod wedi gofyn am well ymateb."
Dywedodd y perchenog, Jasper Blakeley : “Codon ni £300 ar y noson a chyfanswm o fwy na £11,000 dros y flwyddyn a aeth heibio, i helpu ariannu taith tîm dan 16 oed Penarth. Mae fy mab yn aelod o’r tîm ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at y daith.
“Mae’r ymateb gan y masnachwyr a chynulleidfaoedd wedi bod yn wych, a does dim un tocyn ar ôl ar gyfer ein digwyddiadau ym mis Ebrill. Mae pobl wedi dod o leoliadau mor bell â Chasnewydd a Bryste i weld y sioeau, allwn ni ddim bod wedi gofyn am well ymateb."
Cymerwch gip olwg ar y wefan am wybodaeth ar ddigwyddiadau yn y dyfodol.