Cost of Living Support Icon

 

Datgelu dyluniadau ar gyfer ailddatblygu ystafelloedd newid Pentir Nel

Mae cynlluniau i droi ystafelloedd newid segur Pentir Nel yn gyfres o fwytai wedi symud gam yn nes yn dilyn datgelu’r dyluniadau ar gyfer y project.

 

  • Dydd Mawrth, 24 Mis Ebrill 2018

    Bro Morgannwg



Bydd yr adeilad gwag,  sy’n deillio o oes aur yr Ynys yng nghyfnod Fictoria, yn cael bywyd newydd o ganlyniad i ymarfer marchnata diweddar a gynhaliwyd gan Gyngor Bro Morgannwg.    


Mae’r datblygwyr Morse Affiliated wedi cael eu dewis i gyflawni project a fydd yn cynnwys troi'r adeilad yn bedwar bwyta o safon uchel. 


3D view From Friars RoadAc mae’r delweddau cyntaf o’r clwstwr o fwytai, a fydd yn dwyn yr enw Pentir Nel, bellach wedi’u rhyddhau.


Er bod rhaid i adeiledd sylfaenol yr adeilad rhestredig gradd II aros yr un fath, bydd gwedd newydd yr adeilad yn un gwbl fodern.


Mae’r cynigion yn dangos, wrth edrych allan dros Fae Whitmore, y bydd un o’r bwytai ar y to ac yn cynnwys nenfwd y gellir ei chau ac agor ar gyfer ciniawa yn yr awyr agored pan fydd y tywydd yn addas.

 

Bydd dau fwyty wedi’u lleoli yn yng nghorff yr adeilad presennol a bydd un arall mewn estyniad a gaiff ei ychwanegu at ochr yr adeilad. 


Yn ddiweddar cwblhaodd Morse Affiliated y gwaith o adnewyddu sinema o’r 1930au yn Oyster Wharf yn y Mymbls i safon uchel iawn ac mae’r Cyngor yn ffyddiog y caiff datblygiad o’r safon debyg ei gyflawni yn yr achos hwn. 


Mae’r project yn gam ymlaen arall yn y gwaith o adfywio Ynys y Barri, sydd wedi bod yn destun gwaith gwella sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys uwchraddio’r gysgodfan Edwardaidd Restredig Gradd II,  adeiladu toiledau modern a chreu cabannau traeth nodedig.

3D view From promenadeDywedodd y Cyng. John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Rydw i’n  siŵr bod pawb wrth eu bodd fel fi gyda’r cynlluniau ar gyfer y tai bach cyhoeddus ym Mhentir Nel. Mae dyluniad bywiog yr adeilad yn cyd-fynd ag adfywiad yr Ynys fel tref glan-y-môr fodern.


“Mae’r Cyngor wedi ymrwymo adnoddau sylweddol at y gwaith o uwchraddio’r Ynys yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae’n galonogol gweld bod yr ymrwymiad hwn yn parhau i arwain at fuddsoddiad preifat yn yr ardal.


“Rydyn ni’n credu y gall cyflwyno bwytai o safon uchel yn yr Ynys fel rhan o’r datblygiad hwn ledaenu ei hapêl i drigolion ac ymwelwyr.”

Dywedodd James Morse o Morse Affiliated: Rydym yn gobeithio creu awyrgylch gyda’r nos yn Ynys y Barri a gwella’r hyn sydd ar gael yn y dydd, fel rydym wedi’i wneud yn y Mwmbwls gyda’r datblygiad Oyster Wharf. 

 

“Rydym yn llawn cyffro am y prosiect ac yn gobeithio y bydd y lluniau hyn yn gwneud trigolion lleol yr un mor frwd am ddyfodol yr adeilad hwn.”