Cost of Living Support Icon

 

Y Barri'n croesawu Tocyn Coffaol 100 i nodi Canmlwyddiant y Llu Awyr Brenhinol

Nododd cadetiaid 372 ATC Y Barri ganmlwyddiant ers ffurfio’r RAF, a chawsant y Tocyn Coffaol 100, fel rhan o'r dathliadau. 

 

 

  • Dydd Mawrth, 24 Mis Ebrill 2018

    Bro Morgannwg


 

 

 

Teithiodd y Cadetiaid i Sgwâr y Brenin y Barri ar fws deulawr Caerdydd o 1964, ar ddydd Sadwrn 14 Ebrill.

 

Yna cafodd aelodau cangen RAFA y Barri, Maer Bro Morgannwg y Cyng. Janice Charles, a Maer tref y Barri, Nic Hodges, y Tocyn Coffaol 100, a ddyluniwyd yn benodol gan fyfyrwyr Ysgol Hyfforddiant Technegol Rhif 4 yn MOD Sain Tathan.

 

Dywedodd Maer Bro Morgannwg y Cyng. Janice Charles: "Roedd yn anrhydedd derbyn y Tocyn Coffaol 100

, ar ran y Barri, i nodi 100 mlynedd ers i'r RAF gael ei ffurfio.

 

"Mae'n bwysig ein bod yn cofio'r aberthion a wneir gan aelodau'r RAF, ac mae'r cenedlaethau iau hynny megis cadetiaid y Barri, wedi'u hysbrydoli gan y pen-blwydd hwn ac yn cydnabod pwysigrwydd canmlwyddiant."

 

Dathlodd y Llu Awyr Brenhinol ei ganmlwyddiant ar 1 Ebrill 2018 a nododd yr achlysur drwy fyfyrio am ei hanes a’i gyflawniadau, yn ogystal â'r gwaith mae’r RAF wrthi’n ei wneud.

 

Cynhaliwyd gwasanaeth yn Eglwys y Santes Fair yn y Barri ar ddydd Sadwrn 22 Ebrill i gydnabod 80 mlynedd cangen y Barri. 

 

 

Caiff y tocyn ei roi i aelodau’r RNLI yn y Barri, a fydd yn mynd ag ef ar y môr i Drwyn yr As, lle bydd RNLI Porthcawl yn ei roi i RAFA Porthcawl.