Llyfrgell y Barri yw'r gyntaf yng Nghymru i lansio oriau agor gyda'r hwyrnos
Gall pobl o 18-oed ledled y Fro bellach fanteisio ar ddefnyddio gwasanaethau yn llyfrgell y Barri tan 9pm yn ystod yr wythnos.
Lansiodd y Cynghorydd Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant, Pennaeth Strategaeth, Dysgu Cymunedol ac Adnoddau, Trevor Baker, Rheolwr Diwylliant a Dysgu Cymunedol, Phil Southard, a Chyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau, Paula Ham, y rhaglen oriau hwyr yn swyddogol ddydd Llun 23 Ebrill sef dyddiad Noson Llyfr y Byd.
Llyfrgell y Barri yw’r gangen gyntaf yng Nghymru i dreialu oriau’r hwyrnos, dan Open+.
Mae Open+ yn rhan o Bibliotheca, cwmni sy’n ymroddedig i ddatblygu ffyrdd o gynnal a thyfu llyfrgelloedd ledled y byd.
Nod Open+ yw ategu'r oriau craidd mae staff yn eu gweithio trwy ymestyn oriau agor, gyda'r bwriad o gynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio llyfrgelloedd, yn ogystal â sicrhau eu lle yn y gymuned.

Gall aelodau’r llyfrgell gofrestru ar gyfer cerdyn fydd â rhif pin newydd gan eu galluogi i ddefnyddio’r llyfrgell yn hwyr. Rhaid i’r aelodau gwblhau sesiwn sefydlu byr cyn defnyddio’r cerdyn.
Ni chaniateir mynediad i'r llyfrgell i blant a phobl ifanc dan 18 oed, oni bai bod rhiant neu warcheidwad oedolyn yn cyd-fynd â nhw, sydd hefyd yn aelod Open+.
Bydd y ddau lawr yn y llyfrgell yn aros ar agor, gan alluogi pobl i ddefnyddio’r cyfrifiaduron, mynd ar y rhyngrwyd a defnyddio'r peiriannau hunanwasanaeth er mwyn benthyg neu ddychwelyd llyfr neu dalu dirwy.
Bydd yr ystafell gyfrifiaduron a’r toiledau ar yr ail lawr ar gau.
Ni chaniateir i neb ddefnyddio’r llyfrgell heb gofrestru o flaen llaw. Mae camerau CCTV yn lle yn yr adeilad yn ogystal â thu fas.
Bydd llyfrgell y Barri’n aros ar agor tan 7pm ar ddydd Llun, ond bydd yn ailagor o 7.05pm tan 9pm.
Bydd yr un peth ar waith ar gyfer dydd Mawrth – dydd Gwener pan fo’r llyfrgell yn cau am 5.30pm ac yn ailagor am 5.35pm tan 9pm.
Pe bai Open + yn llwyddiannus yng nghangen y Barri, y gellid ymestyn y rhaglen i lyfrgelloedd eraill ar draws y Fro.
Dywedodd Cyngh Bob Penrose: “Mae lansio’r rhaglen Open+ yn y Barri a chynnig yr oriau agor hwyr hyn yn ffordd wych o apelio at fwy o bobl nad ydynt yn cael y cyfle i ddefnyddio'r llyfrgell yn ystod yr wythnos. Mae’n amseru gwych ar gyfer myfyrwyr sy’n gallu defnyddio’r lle i astudio ar gyfer eu harholiadau yn yr haf, â grwpiau cymunedol sydd am gwrdd yn ystod y nos.
“Mae’n newyddion gwych mai'r Barri yw’r llyfrgell gyntaf yng Nghymru i lansio'r rhaglen a gobeithio y gall yr oriau hwyr annog mwy o bobl ledled y Fro i ddefnyddio’r gwasanaethau ardderchog sydd ar gael yn y gangen.”
