Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 11 Mis Medi 2017
Bro Morgannwg
Daw’r rhybudd ar ôl i ddwy gollfarn yn ddiweddar arwain at landlordiaid yn cael eu dirwyo miloedd o bunnoedd am beidio â chydymffurfio â Rhentu Doeth Cymru.
Gyda phwerau gorfodi’n weithredol nawr, mae’r rheiny sydd dal yn gwrthod cydymffurfio yn cael eu rhybuddio eu bod mewn perygl o gael collfarn os nad ydynt yn cysylltu â Rhentu Doeth Cymru ar unwaith ac yn cymryd camau i weithredu’n gyfreithiol.
Dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, rhaid i landlordiaid fod wedi cofrestru ac mae’n rhaid i landlordiaid sy’n hunan reoli ac asiantiaid gyflawni hyfforddiant er mwyn cael trwydded.
Mae gwefan Rhentu Doeth Cymru yn cynnig gwasanaeth ‘cofrestr gwirio’ sy’n galluogi tenantiaid a’r cyhoedd i wirio os yw landlordiaid ac asiantiaid yn torri’r gyfraith. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod bron i 7000 o eiddo ym Mro Morgannwg wedi cwblhau’r broses gofrestru yn llwyddiannus, ond mae cannoedd dal angen cofrestru.
“Daeth Rhentu Doeth Cymru i rym ym mis Tachwedd 2015 ac mae’n braf gweld Cymru yn arwain y ffordd o ran sicrhau bod landlordiaid ac asiantiaid yn gwbl ymwybodol o’u cyfrifoldebau. "Rwy’n falch iawn bob bron i 7000 o landlordiaid wedi cofrestru ledled Bro Morgannwg. Hoffwn atgoffa unrhyw un sydd heb gofrestru eto eu bod yn torri’r gyfraith a bydden i'n eu hannog i gysylltu â Rhentu Doeth Cymru i osgoi erlyniad.” - Y Cynghorydd Andrew Parker
“Daeth Rhentu Doeth Cymru i rym ym mis Tachwedd 2015 ac mae’n braf gweld Cymru yn arwain y ffordd o ran sicrhau bod landlordiaid ac asiantiaid yn gwbl ymwybodol o’u cyfrifoldebau.
"Rwy’n falch iawn bob bron i 7000 o landlordiaid wedi cofrestru ledled Bro Morgannwg. Hoffwn atgoffa unrhyw un sydd heb gofrestru eto eu bod yn torri’r gyfraith a bydden i'n eu hannog i gysylltu â Rhentu Doeth Cymru i osgoi erlyniad.” - Y Cynghorydd Andrew Parker