Cyngor Bro Morgannwg yn cwblhau sarn ffordd yr harbwr
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cwblhau Cynllun Sarn Ffordd yr Harbwr wedi’r cam terfynol, sef gwaith adnewyddu ar y maes parcio, gwerth £250,000.
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cwblhau Cynllun Sarn Ffordd yr Harbwr wedi’r cam terfynol, sef gwaith adnewyddu ar y maes parcio, gwerth £250,000.
Roedd y project, a ddyluniwyd i wella mynediad at yr ynys ar gyfer cerddwyr a beicwyr, yn cynnwys gwaith eang dros gyfnod o bedair blynedd, yn gyntaf fel rhan o Raglen Adfywio’r Barri.
Yn gyntaf, gwnaed gwaith i wella mynediad at Drwyn y Brodyr ac yna gwariodd y Cyngor tua £1 miliwn ar wella llif y traffig at yr ynys trwy uwchraddio cynllun y ffordd ger cyffordd y Ship Inn.
Mae gwaith arall yn cynnwys lledu’r droedffordd, gosod rheiliau, gwella’r goleuadau a’r seddau a'r amddiffynfeydd llifogydd.
Mae’r llwybr newydd i gerddwyr a beicwyr yn cysylltu Hen Ffordd yr Harbwr â gweddill rhwydwaith glan môr y Barri ac mae eisoes yn boblogaidd ymhlith cerddwyr, beicwyr a rhedwyr.
Mae’n rhan o gyfnod parhaus o waith gwella yn Ynys y Barri, sydd wedi cynnwys gwaith gwella sylweddol i'r Promenâd a’r Gerddi.
Bydd y gwaith datblygu yn parhau gyda’r gwaith nesaf ym mloc toiledau Trwyn Nel.
“Mae’n wych gweld y project hirdymor hwn yn dod i derfyn wedi rhaglen faith o waith sydd wedi gwella mynediad at yr ynys yn sylweddol.”
“Rydym yn gobeithio y bydd pobl o’r Fro ac ymwelwyr yn dod i fwynhau'r llwybr newydd i gerddwyr a beicwyr. Gall hynny yn ei dro helpu i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw, sy’n rhywbeth rydyn ni’n ymrwymo i’w gynnig i’n trigolion.
“Mae Ynys y Barri wedi ei thrawsnewid yn ddiweddar ac mae hi bellach yn dal ei thir fel cyrchfan glan môr o’r safon uchaf.” - Cyngr John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg
