Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn rhoi mwy o arian i fynd i’r afael â digartrefedd

MAE Cyngor Bro Morgannwg unwaith eto wedi addo cefnogaeth ariannol i ddwy elusen i’r digartref wrth i ymdrechion i fynd i’r afael â’r broblem yn yr ardal barhau.

 

  • Dydd Llun, 11 Mis Medi 2017

    Bro Morgannwg



Bydd Llamau, sefydliad sydd wedi bod yn gweithio am fwy na 30 mlynedd i helpu’r digartref a phobl ifanc agored i niwed ledled Cymru, yn derbyn £18,000 dros y flwyddyn ariannol nesaf, a fydd yn mynd at ei brojectau Cynghori a Llety â Chymorth.

Wedi ei leoli yn 236, Heol Holltwn, y Barri, mae Llamau yn rhedeg siop untro i bobl ifanc 16 – 25 oed sydd angen cartref yn y Fro.

llamau1Mae’n cynnig cyngor ar dai a budd-daliadau, gwasanaeth cyfryngu i deuluoedd, gwasanaethau atal digartrefedd, cynllun llety â chymorth a chymorth i denantiaid.

Mae’r cynllun Llety â Chymorth yn rhoi’r cyfle i’r rhai hynny sydd ag ystafell sbâr i adael i berson ifanc ei defnyddio, a fydd yn ei dro yn helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fyw’n annibynnol. 

Dyma fydd y 12fed blwyddyn yn olynol i’r Cyngor roi cymorth grant i Llamau.

Yn ogystal â rhoi cefnogaeth i’r mentrau hyn, mae’r Cyngor hefyd wedi addo £5,000 i Broject Home Access y Tabernacl.

Mae’r cynllun hwn, sy’n cael ei redeg gan Eglwys Bedyddwyr y Tabernacl ym Mhenarth trwy’r elusen Home Access, yn cynnig cyngor a chymorth i’r rhai hynny sy’n ddigartref neu dan fygythiad o fod yn ddigartref yn y Fro.

“Dywedodd y Cyng. Andrew Parker, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai a Gwasanaethau Adeiladau: “Mae digartrefedd yn broblem enfawr yn genedlaethol ac, er bod nifer y bobl sy’n canfod eu hunain yn y sefyllfa honno yn y Fro yn isel o’i gymharu â rhannau eraill o’r wlad, mae’n fater yr un mor ddistrywiol i’r rheiny sydd yn wynebu digartrefedd.

“Gobeithiwn y bydd yr arian y mae’r Cyngor wedi ei ymrwymo i Llamau ac i broject Home Access Eglwys Bedyddwyr y Tabernacl yn helpu i sicrhau parhad y gwaith gwerthfawr maen nhw’n ei wneud i helpu rhai o aelodau mwyaf bregus ein cymunedau. - Dywedodd y Cyng. Andrew Parker, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai a Gwasanaethau Adeiladau.

 

"Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth sydd wedi ei rhoi i Llamau gan Gyngor Bro Morgannwg. Mae ein perthynas barhaus â’r Cyngor yn sicrhau'r canlyniadau gorau ar gyfer pobl ifanc sy’n agored i niwed yn y Fro, sy’n profi digartrefedd. Mae Cyngor Bro Morgannwg wastad wedi bod yn rhagweithiol wrth fynd i’r afael â digartrefedd a phobl sy’n agored i niwed ac mae Llamau yn falch dros ben i barhau i weithio mewn partneriaeth â nhw.” - Dywedodd Frances Beecher, Pryf Weithredwr Llamau