Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 28 Mis Medi 2017
Bro Morgannwg
Barri
O 10y.b tan 3y.p ar ddydd Llun 2 Hydref, bydd cyfle i bobl gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a fydd yn hybu eu hiechyd corfforol a meddyliol, gan gynnwys Saethu â Gwn Laser, Boccia a Mini Golff.
Bwriad Fforwm Strategaeth 50+ y Fro yw gweithio i sicrhau dyfodol gwell i bobl 50+ oed ledled y Fro, trwy roi cyfle iddynt leisio eu barn.
Bydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira, y rhoi anerchiad yn y digwyddiad a bydd y Gweinidog Jane Hutt AC hefyd yn bresennol.
Caiff pobl hefyd gymryd rhan mewn ymarferion hyfforddiant effaith isel megis Tai Chi, dawnsio gyda Motion Control Dance, yn ogystal â gweithdai ysgrifennu barddoniaeth, celf a chrefft a gwneud tlysau.
Bydd lluniaeth ysgafn ar gael ar y dydd a bydd nifer o feiciau hygyrch ar gael ar gyfer y rheiny sydd angen defnyddio offer arbenigol.
Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar y poster.
Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn