Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 25 Mis Medi 2017
Bro Morgannwg
Bydd y tîm cofrestru etholiadol yng Nghyngor Bro Morgannwg yn curo drysau ar ôl i fwy na 14,000 o eiddo fethu ag ymateb i’r ffurflenni a gafodd eu hanfon yn gynharach eleni.
Bydd y tîm yn dechrau galw heibio i gartrefi ledled y Fro o ddydd Sadwrn 30 Medi yn sgil diffyg ymatebion, ond, os na fydd aelodau o’r cyhoedd am i’r tîm alw, maen nhw’n cael eu cynghori i ymateb i'r Ffurflenni Ymholiadau Aelwydydd drwy eu hanfon yn y post neu drwy ymateb ar-lein yn https://www.hef-response.co.uk/cy-GB.
"Mae’n bwysig iawn bod trigolion yn ymateb cyn gynted â phosibl, fel y gallwn ni sicrhau bod gennym y manylion cywir ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad ym Mro Morgannwg. I sicrhau eich bod yn gallu dweud eich dweud yn yr etholiadau y flwyddyn nesaf, y cyfan mae angen ei wneud yw gwirio'r ffurflen pan ddaw hi ac ymateb cyn gynted â phosibl." "Os nad ydych wedi'ch cofrestru ar hyn o bryd, ni fydd eich enw yn ymddangos ar y ffurflen. Ond os hoffech chi gofrestru, y ffordd hawsaf o wneud felly yw trwy fynd i www.gov.uk/register-to-vote, neu byddwn ni’n anfon y wybodaeth sy’n esbonio sut mae gwneud hyn i chi yn y post. Pa un bynnag, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen a’i hanfon yn ôl atom o hyd.” - Debbie Marles, Swyddog Cofrestru Etholiadol yng Nghyngor Bro Morgannwg.
"Mae’n bwysig iawn bod trigolion yn ymateb cyn gynted â phosibl, fel y gallwn ni sicrhau bod gennym y manylion cywir ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad ym Mro Morgannwg. I sicrhau eich bod yn gallu dweud eich dweud yn yr etholiadau y flwyddyn nesaf, y cyfan mae angen ei wneud yw gwirio'r ffurflen pan ddaw hi ac ymateb cyn gynted â phosibl."
"Os nad ydych wedi'ch cofrestru ar hyn o bryd, ni fydd eich enw yn ymddangos ar y ffurflen. Ond os hoffech chi gofrestru, y ffordd hawsaf o wneud felly yw trwy fynd i www.gov.uk/register-to-vote, neu byddwn ni’n anfon y wybodaeth sy’n esbonio sut mae gwneud hyn i chi yn y post. Pa un bynnag, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen a’i hanfon yn ôl atom o hyd.”
- Debbie Marles, Swyddog Cofrestru Etholiadol yng Nghyngor Bro Morgannwg.
Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi’u cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus.
Bwriad y ffurflen yw sicrhau bod y gofrestr etholiadol yn gyfredol ac i nodi unrhyw drigolion nad ydynt wedi'u cofrestru.
Gofynnir i bobl ddychwelyd y ffurflen cyn gynted â phosibl.
Beth yw manteision bod ar y Gofrestr Etholiadol?
Am fwy o wybodaeth, ewch i gov.uk/register-to-vote neu gallwch danysgrifio i fod ar Gylchlythyr y Gofrestr.
Gallwch hefyd gael y diweddaraf ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol @ElectoralCommUK a @YourVote_UK