Sesiynau gwybodaeth i’w cynnal cyn dyddiad cau derbyn i ysgolion newydd Y Barri
Mae rhieni plant blynyddoedd 7 i 9 ledled y Barri wedi eu gwahodd i sesiynau gwybodaeth cyn y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am le yn y ddwy ysgol uwchradd newydd yn y dref.
Bydd Ysgol Gyfun y Barri ac Ysgol Gyfun Bryn Hafren yn cau ym mis Gorffennaf 2018 a bydd dwy ysgol uwchradd gymysg newydd yn eu lle o fis Medi 2018 ymlaen.
Cyn hyn, bydd yn rhaid i rieni disgyblion iau na blwyddyn 10 yn Ysgolion Cyfun y Barri a Bryn Hafren wneud cais am le yn un o’r ddwy ysgol gymysg newydd.

"Mae hyn yn adeg gyffrous iawn i addysg yn y Barri, a’r disgyblion cyntaf i fanteisio ar addysg gymysg fydd y rheiny sydd ym mlynyddoedd 7 i 9 ar hyn o bryd.
“Mae gan rieni yn y Barri fwy o ddewis nag erioed o’r blaen wrth ystyried pa ysgol y byddent yn dymuno gweld eu plant yn ei mynychu. Mae ystod eang o ffactorau a all ddylanwadu ar eu penderfyniad ac felly rydym yn cynnal sesiynau ym mhob safle lle y gall rhieni alw heibio, holi cwestiynau, a gadael, gobeithio, yn gallu gwneud y penderfyniad gorau dros eu plentyn.”
- Pennaeth gweithredol ar gyfer y ddwy ysgol, Dr Vince Browne.
Caiff y sesiynau eu cynnal yn Ysgol Gynradd Tregatwg ac Ysgol Gynradd Romilly ar 25 a 26 Medi. Bydd yr holl rieni’n derbyn gwahoddiad drwy ysgol bresennol eu plentyn.
Dechreuodd y broses dderbyn ar gyfer y ddwy ysgol newydd ar 15 Medi 2017 ac mae gan rieni tan 20 Hydref i wneud eu cais ar-lein.
Bydd gan y ddwy ysgol gymysg newydd eu dalgylchoedd eu hunain a rhoddir blaenoriaeth i ddisgyblion sy’n byw o fewn y dalgylchoedd hynny, pe byddai gormod o geisiadau ar gyfer y naill ysgol neu’r llall.
Bydd rhaid i bob rhiant sicrhau eu bod yn cwblhau cais er mwyn i’w plentyn sicrhau lle yn ei ysgol leol.
Mae mwy o wybodaeth am y broses dderbyn a thrawsnewidiad addysg uwchradd yn y Barri i’w chael yma www.valeofglamorgan.gov.uk