Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 27 Mis Medi 2017
Bro Morgannwg
Barri
Bydd Ffair Wirfoddoli BIG yn dechrau am 11am yn Neuadd Goffa'r Barri ddydd Iau 12 Hydref.
Mae nifer y cyfleoedd gwirfoddoli’n amrywio o Iechyd Meddwl, Camddefnyddio Sylweddau, Cymorth Cyntaf a Llyfrgelloedd Cymunedol.
Bydd Canolfan Fenter Gymunedol y Barri yn cynnal digwyddiad Rhwydweithio Cymunedol a Gweithredu Gwirfoddol GGM ddydd Mawrth 10 Hydref o 10am.
Mae’r tri chyflwyniad wedi’u paratoi ar gyfer y digwyddiad rhwydweithio yn cynnwys diweddariad ar wefan dewis Cymru, y lle i gael gwybodaeth am lesiant yng Nghymru, yn ogystal â sgyrsiau gan yr elusen Motion Control Dance a'r project consortiwm a ariennir gan y Loteri Fawr.
I fynd i’r digwyddiad rhwydweithio gallwch gysylltu â Dave Edwards erbyn dydd Gwener 6 Hydref trwy ffonio 01446 741706 neu e-bostio enquiries@gvs.wales.