Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 18 Mis Medi 2017
Bro Morgannwg
Bwriad Fforwm Strategaeth 50+ y Fro yw gweithio er dyfodol gwell ar gyfer pobl 50+ oed ledled y Fro, trwy sicrhau y gallant leisio eu barn.
Cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn yr Ystafell Gorfforaethol, Heol Holltwn, Y Barri, ddydd Iau 21 Medi. Bydd Maer Bro Morgannwg, y Cyng. Janice Charles yn agor y cyfarfod a bydd Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden Bro Morgannwg, y Cyng. Gordon Kemp hefyd yn bresennol fel yr Hyrwyddwr i Bobl Hŷn.
Bydd yr Athro Sir Mansel Aylward CB, Cadeirydd y Comisiwn Bevan a Chadeirydd blaenorol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyflwyno sgwrs ar 'Adolygiad Seneddol ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru’.
Bydd y digwyddiad yn digwydd rhwng 9.30am a 12pm, gyda mynediad am ddim a lluniaeth. Am fy o wybodaeth, gallwch ffonio John Porter ar 01446 709779 neu e-bost jporter@Vakeofglamorgan.gov.uk.