Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 20 Mis Medi 2017
Barri
Bydd y gwaith yn cynnwys gosod rheiliau newydd, llwybrau troed a gwella’r mynediad i'r gerddi, yn ogystal â glanhau'r pwll a phlannu bylbiau gwanwyn a choed ychwanegol.
Y gwelliannau hyn yw’r cam olaf y project sylweddol i adfer Gerddi Gladstone uchaf ac isaf yn y Barri, sydd wedi cynnwys gosod ardal chwarae newydd, offer campfa awyr agored ac ardal gemau aml-ddefnydd.
Mae’r waliau balwstrad sy’n amgylchynu’r parc wedi cael eu hadfer fel rhan o’r project hwn hefyd.
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi buddsoddi mwy na £400,000 i wella’r parc poblogaidd hwn, sydd bellach yn cynnwys yr ardal awyr agored actif fwyaf ym Mhrydain.
"Rydym yn gobeithio y bydd trigolion, ysgolion cyfagos ac ymwelwyr â’r ardal yn cael budd o’r cyfleusterau hyn sydd wedi’u huwchraddio. “Fel Cyngor rydym wedi ymrwymo i hybu iechyd a lles trigolion, ac mae sicrhau bod mannau agored o safon wrth law yn ffactor bwysig yn y gwaith o sicrhau ffordd o fyw iach.” - Cyng. Gordon Kemp, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden.
"Rydym yn gobeithio y bydd trigolion, ysgolion cyfagos ac ymwelwyr â’r ardal yn cael budd o’r cyfleusterau hyn sydd wedi’u huwchraddio.
“Fel Cyngor rydym wedi ymrwymo i hybu iechyd a lles trigolion, ac mae sicrhau bod mannau agored o safon wrth law yn ffactor bwysig yn y gwaith o sicrhau ffordd o fyw iach.”
- Cyng. Gordon Kemp, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden.
Yn ystod y cyfnod olaf hwn, bydd rhannau o’r parc ar gau dros dro a chaiff cerddwyr eu dargyfeirio.
Disgwylir i’r gwaith bara 12 wythnos.