Allech chi ddylunio cerdyn Nadolig swyddogol 2017 Maer Bro Morgannwg?
Gwahoddir plant ledled Bro Morgannwg i ddylunio cerdyn Nadolig swyddogol 2017 yr Arglwydd Faeres, Y Cynghorydd Janice Charles.
Mae’r Maer yn anfon dros 500 o gardiau bob blwyddyn at Arweinyddion Dinesig ledled Cymru ac Ewrop, yn ogystal â gweddill y sir.
Mae 5 o gategorïau ac fe gaiff enillydd ei ddewis o blith pob un. Gwahoddir pob buddugwr, ynghyd â’u teuluoedd a’u hathrawon i Barlwr y Maer i dderbyn delwedd wedi ei fframio o’u cynnig.
Caiff yr enillydd cyffredinol ei gyhoeddi fel dylunydd swyddogol Cerdyn Nadolig y Maer 2017 ac fe gaiff y dyluniad ei argraffu’n broffesiynol.
Mae pum categori yn y gystadleuaeth, sef:
- Dosbarth meithrin a derbynfa
- Blwyddyn 1-3
- Blwyddyn 4 – 6
- Blwyddyn 7 – 9
- Blwyddyn 10 - 12
Gall eich cynnig fod mor greadigol ag y mynnoch, o ffotograff, darlun, cartŵn, neu lun.
Croesewir cysylltiad ag Elusennau’r Maer, Soroptomistiaid y Barri a'r Cyffiniau, Baby Basics, a Woodys Lodge and Christmas.
Caiff y ddelwedd ei defnyddio ar gerdyn – tirweddol (10 x 15cm), portread (15 x 10cm) neu sgwâr (hyd at 14cm sgwâr).
Anfonwch eich dyluniad drwy e-bost at TMayor@valeofglamorgan.gov.uk fel dogfen PDF, Tiff, EPS – mae gofyn iddo fod yn 300dpi.
Gallwch hefyd anfon eich dyluniad drwy’r post i: Cystadleuaeth cerdyn Nadolig, Swyddfa’r Maer, Neuadd y Dref, Sgwâr y Brenin, y Barri CF63 4RW.
Y dyddiad cau yw 5pm ar Ddydd Llun 9 Hydref, a rhaid cynnwys eich enw a chyfeiriad eich ysgol gyda’ch cais.
Rheolau’r Gystadleuaeth
- Derbynnir cynigion ar y gystadleuaeth drwy e-bost neu drwy’r post.
- Y wobr i un enillydd fydd argraffiad wedi ei fframio o’r cerdyn. Does dim dewis i gael arian yn ei le. Cyfyngir y gystadleuaeth i un cynnig i bob cystadleuydd.
- Caiff cynigion awtomataidd, cynigion swmp neu gynigion trydydd parti eu diarddel.
- Mae’r gystadleuaeth ar agor i blant ac oedolion ifanc sy’n byw ym Mro Morgannwg yn unig. Bydd angen caniatâd ysgrifenedig eu rhieni neu ofalwr i gadarnhau eu bod yn derbyn y wobr a chytundeb i gyhoeddusrwydd wedi’r gystadleuaeth.
- Caiff yr enillydd(wyr) eu dewis gan dîm beirniadu’r Maer.
- Cysylltir â’r enillydd drwy e-bost neu drwy’r post. Caiff enw’r buddugwr ei arddangos ar ein gwefan ac ar y cardiau pan gânt eu hargraffu.
- Mae penderfyniad y Beirniad yn derfynol ac ni fydd gohebiaeth bellach.
- Bydd y gystadleuaeth ar agor tan 5.00pm ar 09 Hydref 2017.
- Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998. Ein polisi yw na fyddwn yn trosglwyddo eich manylion i unrhyw drydydd parti. Hyrwyddwr: Julie Brown, Swyddfa’r Maer, Neuadd y Dref, Sgwâr y Brenin, y Barri 63 4RW
Drwy gyflwyno eich cynnig i Swyddfa’r Maer rydych yn cytuno i Faeres Bro Morgannwg ddefnyddio’r llun yn ei Cherdyn Nadolig Swyddogol 2017.
Ein penderfyniad ni fydd defnyddio unrhyw waith celf ac efallai y byddwn yn dewis mwy nag un cynnig.