Drysau Agored gyda Cadw
Mae Drysau Agored Cadw 2017 yn dod â sinema am ddim i'r Memo
Mae Canolfan Gelfyddydau’r Memo yn falch o gymryd rhan yn y digwyddiad Drysau Agored cenedlaethol eleni, a fydd yn digwydd drwy gydol mis Medi fel rhan o’r Diwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd.
Mae Drysau Agored, a drefnir gan Cadw, sef gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn ddathliad o bensaernïaeth a threftadaeth Cymru, ac mae'n cynnig y cyfle i archwilio trysorau cudd treftadaeth a hanes Cymru.
“Rwyf wrth fy modd y bydd y Memo yn rhan o Drysau Agored. Mae hwn yn gyfle arbennig iawn i weld rhan o dreftadaeth gudd Cymru, ac rydym yn annog y gymuned leol, yn ogystal ag ymwelwyr o ymhellach i ffwrdd gymryd mantais o'r cyfle hwn." - Kate Long, Canolfan Gelfyddydau’r Memo
Bydd Canolfan Gelfyddydau'r Memo ar agor i’r cyhoedd ddydd Mawrth 26 Medi, a bydd yn cynnwys cyfle i ymweld â’r Gofadail a’r Neuadd Atgofion, gyda byrddau hanes a gwybodaeth ar gael i’ch tywys trwy eich ymweliad. Bydd y digwyddiad wedyn yn ymweld â sinemâu arbennig.

Fel rhan o ddigwyddiad cenedlaethol Drysau Agored Cadw, bydd y Memo’n sgrinio’r ffilmiau canlynol ddydd Mawrth 26 Medi:
- War Horse (12A) – 10.00am
- All Quiet on the Western Front (PG) – 1.30pm and 7.00pm
Mae digwyddiad Drysau Agored y Memo yn hollol hygyrch ac yn agored i bawb. Ni fydd unrhyw gostau mynediad ar gyfer y ffilmiau; mae 400 o docynnau ar gael ar gyfer pob ffilm, ac anogir grwpiau ysgol ac aelodau’r cyhoedd i ‘archebu’ tocynnau o flaen llaw.
Book Tickets Online
Digwyddiadau Drysau Agored eraill:
Mae nifer o ddigwyddiadau drws agored sy'n perthyn i Fro Morgannwg yn digwydd ym mis Medi.
Archifau Morgannwg
Mae Archifau Morgannwg yn gwasanaethu awdurdodau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg. Mae'n casglu ac yn cadw dogfennau cyhoeddus o'r ardal yn dyddio o'r 12fed ganrif hyd heddiw ac yn sicrhau eu bod ar gael.
Archifau Morgannwg
Gerddi Dyffryn
Mae Gerddi Dyffryn, sy’n werddon dawel yn union y tu allan i Gaerdydd, yn enghraifft eithriadol o ddylunio Edwardaidd. Mae'r eiddo hwn sy’n ymestyn dros fwy na 55 o erwau, yn gartref i gasgliad trawiadol o ystafelloedd gardd cartrefol, gardd goed eang yn cynnwys coed o bob cwr o'r byd a thŷ gwydr trofannol.
Gerddi Dyffryn
Clive Place, Penarth - SuperHome
Darperir gwres gan bwmp gwres o ffynhonnell aer, a stof llosgi coed yn ystod cyfnodau oer. A’r holl drydan i’r tŷ naill ai’n cael ei gynhyrchu gan y solar ffotofoltaig neu’n cael ei fewngludo ar dariff trydan 100% adnewyddadwy, mae’n lefel isel iawn o garbon. Mae’r perchnogion wedi adnewyddu ac ymestyn eu heiddo o 1948 i sicrhau 81% o arbediad carbon, biliau is a bod yn fwy cyfforddus yn y tymor hir.
Clive Place
Argae Bae Caerdydd
Mae Argae Bae Caerdydd yn 1.1km o hyd ac yn ymestyn o ddociau Caerdydd yn y gogledd i Benarth yn y de. Y prosiect adeiladu peirianneg sifil mawr hwn a arweiniodd ar greu'r Bae, sydd â dros 13k o lannau. Roedd y prosiect gwerth £220m hwn yn gatalydd i waith adfywio gwerth £2 biliwn yn hen ardaloedd y dociau yng Nghaerdydd a Phenarth.
Argae Bae Caerdydd