Hyb Bro Morgannwg i gynnal digwyddiad lansio i gefnogi'r meddyliau mwyaf disglair yn y sir
Mae HYB y Fro yn estyn cymorth i ddisgyblion blwyddyn 12 mwyaf disglair Cymru, wrth iddynt ymgeisio am leoedd ym mhrif brifysgolion y DU.
Fel yr hyb ieuengaf yng Nghymru, mae Hyb y Fro, a ariennir gan Gyngor Bro Morgannwg, wedi bod yn weithredol ers yn llai na blwyddyn, ac mae’n rhan o’r Rhwydwaith Seren.
Rhwydwaith o 11 hyb rhanbarthol yw Seren, sy’n gweithio mewn partneriaethau rhwng ysgolion uwchradd a cholegau, gyda chymorth llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru a phrifysgolion arweiniol.
Gwahoddir disgyblion i’r digwyddiad yn Vale Hotel yn Hensol, ddydd Mercher 25 Hydref, ac mae’r rhaglen yn cynnwys sesiynau Llesiant ar ofn a dewrder, ynghyd â chyflwyniadau gan fyfyrwyr sy'n astudio yn y Brifysgol ar hyn o bryd.

Lansiwyd y rhaglen gyntaf yn 2013, pan benodwyd Paul Murphy AS, cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn Llysgennad Rhydgrawnt Llywodraeth Cymru, ac roedd yn gweithio ar gynyddu'r nifer o geisiadau a derbyniadau Cymreig i Brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.
Cyflwynwyd yr adroddiad i Weinidog Addysg Cymru, Huw Lewis, a chymeradwyodd Llywodraeth Cymru ei alwad am “rhwydwaith cenedlaethol o hybiau partneriaeth” yn 2014.