Cost of Living Support Icon

 

Dewch i ail-fyw hanes yng nghasgliad ‘Llunio’r Fro – yr oes a fu’ yn Oriel Gelf Ganolog, y Barri

Mae casgliad o luniau digidol yn cael eu harddangos yn Oriel Gelf Ganolog y Barri yn rhan o ‘Gasgliad y Werin Cymru’.

 

  • Dydd Llun, 30 Mis Hydref 2017

    Bro Morgannwg



I ddathlu deng mlwyddiant Llyfrgell y Barri a’r Oriel Gelf Ganolog yn Sgwâr y Brenin, mae ‘Llunio’r Fro – yr Oes a Fu’ yn arddangos casgliad bach o 3,000 o luniau digidol o archifau’r llyfrgell a gan bobl leol sy’n byw ledled y Fro.

 

Cafwyd cymorth gan dîm o wirfoddolwyr i gatalogio’r lluniau, a fydd yn rhan o gasgliad a gaiff ei gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Y nod yw cynyddu ôl-troed digidol Cymru drwy roi’r lluniau ar-lein. 

 

Elephants-in-Watchtower-Bay,-Barry-(2)

Mae’r oriel yn cynnwys eliffantod yn ymdrochi ym Mae Watchtower, canol trefi mewn du a gwyn a lluniau o ddosbarthiadau ysgol

 

Mae ‘wal atgofion' hefyd wedi'i chreu, sy'n galluogi pobl i rannu eu hatgofion eu hunain o fyw yn  y Fro.

Mae’r arddangosfa ar agor rhwng 9.30 a 4.30pm tan ddydd Sadwrn 6 Ionawr. 

 

Darllenwch ar lein am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau yn yr Oriel Gelf Ganolog.  

 

Butlins,-Barry-Island.-Chairlift-&-Sands