Gwybodaeth am Dacre Stoker
Yn wreiddiol o Montreal, Canada, dysgodd Dacre Addysg Gorfforol a Gwyddoniaeth am ddwy flynedd ar hugain, yng Nghanada a’r Unol Daleithiau. Mae wedi cynrychioli Canada yn y Pentathlon Cyfoes, fel athletwr ac fel hyfforddwr ar lefel ryngwladol ac yn y Gemau Olympaidd dros gyfnod o 12 mlynedd. Bu’n hyfforddi Camden Riviere o’r Unol Daleithiau mewn Tennis Byw i lefel Pencampwriaeth Byd yn ddiweddar.
Roedd Dacre yn gyd-awdur y llyfr llwyddiannus 'Dracula the Un-Dead' (dilyniant i Dracula, gyda sêl bendith y teulu Stoker) a chyd-olygydd (gydag Elizabeth Miller) 'The Lost Journal of Bram Stoker: The Dublin Years'.
Mae Stoker yn arwain teithiau i Transylvania i olrhain bywyd Vlad Dracula III, ac i ymweld â’r lleoliadau a ddefnyddiodd Bram Stoker ar gyfer ei nofel enwog.
Mae Dacre Stoker wedi ymddangos mewn rhaglenni dogfen fel ymgynghorydd ar fampirod mewn llenyddiaeth a diwylliant poblogaidd. Rydym wrth ein bodd i groesawu Dacre yma yn enwedig o gofio’r cyhoeddiad bod Paramount wedi ennill yr hawliau, gyda chytundeb ystâd Teulu Stoker, i wneud ffilm newydd ar sail llyfr sydd ar fin cael ei gyhoeddi ganddo ef a JD Barker.