Angen esgidiau fel rhoddion wrth i ddynion ar draws Bro Morgannwg gael eu hannog i helpu i roi diwedd ar gam-drin domestig yn erbyn menywod
Gwahoddir dynion o bob cwr o dde Cymru i ‘Gerdded Milltir yn ei Hesgidiau Hi’ yng nghanol dinas Caerdydd yn ddiweddarach y mis hwn.

Bydd y digwyddiad cerdded, a wneir gan wisgo esgidiau menywod ac a gefnogir gan Gyngor Bro Morgannwg, yn cael ei gynnal yn rhan o Ymgyrch Rhuban Gwyn y DU, sef mudiad byd-eang i geisio rhoi terfyn ar achosion o ddynion yn defnyddio trais yn erbyn menywod a merched.
Bydd y digwyddiad yn cychwyn yng Nghastell Caerdydd ddydd Gwener 20 Hydref am 10am, ac mae’r tîm yn gofyn i bobl roi esgidiau - rhai maint wyth neu fwy yn ddelfrydol.
Trefnwyd y daith gerdded, sy’n filltir o hyd, ar ôl i bedwar ar ddeg o ddynion a oedd yn gweithio i Gymdeithas Tai Cadwyn gerdded ar hyd Heol Casnewydd mewn sodlau uchel, a chario baneri yn cefnogi rhoi terfyn ar gam-drin domestig.
“Mae Cyngor y Fro yn falch o gefnogi’r digwyddiad anarferol ond pwysig hwn, sy’n ffordd wych o godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod.
"Dwi’n gobeithio gweld cynifer o bobl â phosibl yn cymryd rhan yn y daith gerdded ac yn dangos eu cefnogaeth i’r ymgyrch.”
- Cynghorydd Gordon Kemp, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden.
Cynghorir dynion i wisgo eu dillad arferol, ond nid oes digon o esgidiau ar gael, yn enwedig rhai maint 10 a mwy. Bydd modd benthyg esgidiau ar y diwrnod drwy roi rhodd o £2.
Y cyfle olaf i roi esgidiau yw 5pm dydd Mercher 18 Hydref.
Gallwch fynd ag esgidiau i’r mannau canlynol:
- Unrhyw un o Hybiau Cyngor Caerdydd - 12 ohonynt i gyd. Gweler yma am y cyfeiriadau llawn:
- Cyngor Caerdydd – Tŷ Wilcox, Dunleavy Drive, CF11 0BA
- Cyngor Caerdydd - Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, CF10 4UW
- Prif Swyddfa Cadwyn, 197 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 1AJ
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Juile Grady, Cydgysylltydd Cam-drin Domestig a Rhywiol Bro Morgannwg, ar 01446 731699 neu e-bostiwch Julie.Grady2@south-wales.pnn.police.uk
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, ewch i’r wefan.