Y gwasanaethau rheoliadol a rennir yn ennill gwobrwyon penigamp yng ngwobrwyon olion troed llesiant anifeiliaid Cymunedol 2017 RSPCA Cymru
Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) yn falch iawn o fod wedi ennill gwobrau gwych yng ngwobrwyon Olion Troed Llesiant Anifeiliaid Cymunedol RSPCA Cymru.
Cyflwynwyd y gwobrau gan Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ddydd Llun 23 Hydref.
Partneriaeth yw'r GRhR rhwng Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg, ac eleni, maent wedi ennill y wobr arian yn yr olion troed cŵn strae, y wobr efydd yn y categori trwyddedu gweithgareddau anifeiliaid, ynghyd â’r wobr Arloeswr RSPCA.
Enillodd y tîm y wobr Arloeswr RSPCA am wella llesiant anifeiliaid yn safleoedd Shirenewton a Rover Way yng Nghaerdydd.
Dywedodd Cynghorydd Dhanisha Patel, Cadeirydd Cyd-bwyllgor SRS, : “Mae'n bleser ennill gwobr am y gwaith caled y mae ein staff ni'n ei wneud. Hoffwn ddiolch i bawb oedd ynghlwm â’r cynllun.”

Mae cynllun gwobr CAWF yn rhedeg RSPCA Cymru ac yn cydnabod cynghorau, cymdeithasau tai a sefydliadau sector cyhoeddus eraill sy’n mynd tu hwnt i'r gofynion sylfaenol i sicrhau gwell safonau llesiant i anifeiliaid a'r gwasanaethau y maen nhw'n eu cynnig.
Mae RSPCA Cymru wedi canu clod mwy o sefydliadau sector cyhoeddus nac erioed eleni am eu hymdrechion i wella llesiant anifeiliaid, wrth i'r elusen drafod "arfer da iawn" ledled Cymru.
Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a’r Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoliadol, y Cynghorydd Hunter Jarvie: “Mae’n newyddion da iawn clywed bod y GRhR wedi ennill arian ac efydd yn y gwobrau CAWF, ac mae hyn yn nodi gwaith caled y tîm.
“Mae’r tîm GRhR wedi gweithio’n galed i amddiffyn safonau llesiant anifeiliaid a byddant yn parhau i sicrhau bod y safonau hyn yn cael eu bodloni."