Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 11 Mis Hydref 2017
Bro Morgannwg
Mae Alun Griffiths (Contractors) Ltd i gael ei benodi ar gontract ffurfiol yn dilyn cymeradwyo adroddiad i gabinet y Cyngor ar ddydd Llun 9 Hydref.
Bydd y contractwr yn cael ei benodi ar gontract dylunio ac adeiladu a disgwylir y bydd yn treulio’r chwe mis cyntaf yn gwneud gwaith dylunio manwl.
“Oherwydd bod y cynllun hwn yn aruthrol o bwysig, a’r gyllideb o £25.8 miliwm yn un sylweddol iawn, mae tîm project, wedi ei arwain gan swyddogion o'r cyngor, wedi goruchwylio proses dendro drwyadl a manwl iawn. Wedi adolygu pob agwedd ar y broses, rwyf yn hollol fodlon ein bod wedi sicrhau'r ddêl orau i breswylwyr Bro Morgannwg. "Y cam nesaf yw cwblhau’r trefniadau cytundebol ffurfiol a gobeithiaf y bydd gwaith yn cychwyn ar yr heol newydd yn gynnar yn 2018." - Cyng John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg.
“Oherwydd bod y cynllun hwn yn aruthrol o bwysig, a’r gyllideb o £25.8 miliwm yn un sylweddol iawn, mae tîm project, wedi ei arwain gan swyddogion o'r cyngor, wedi goruchwylio proses dendro drwyadl a manwl iawn. Wedi adolygu pob agwedd ar y broses, rwyf yn hollol fodlon ein bod wedi sicrhau'r ddêl orau i breswylwyr Bro Morgannwg.
"Y cam nesaf yw cwblhau’r trefniadau cytundebol ffurfiol a gobeithiaf y bydd gwaith yn cychwyn ar yr heol newydd yn gynnar yn 2018."
- Cyng John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg.
Dechreuodd y broses dendro yn Ebrill 2017 ac fe’i gwnaed drwy wefan Gwerthwch i Gymru Llywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd sesiynau clinig gyda darpar gontractwyr ym Mehefin, cyn y dyddiad cau ar gyfer cynigion ddiwedd Gorffennaf.
Gwerthuswyd saith cais wedyn, ar sail 50% pris a %0% ansawdd, gan arbenigwyr annibynnol a gynhyrchodd adroddiad asesu cyfrinachol tendrau a ystyriwyd gan gabinet y Cyngor mewn cyfarfod ar 9 Hydref.