Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 20 Mis Hydref 2017
Bro Morgannwg
Mae Rooms4U, sy’n cael ei gynnal gan Gymdeithas Tai Newydd â chymorth gan Gyngor Bro Morgannwg, yn broject peilot ym Mro Morgannwg. Ei nod yw helpu pobl ifanc iau na 35 oed i osgoi digartrefedd drwy rannu tai.
Cafodd y project ei lansio 17 mlynedd yn ôl gan Dai Cymunedol Cymru er cof am Pat Chown a fu’n helpu eraill drwy gydol ei bywyd.
Y nod yw uno pobl ifanc i roi cymorth i’w gilydd yn eu cartref eu hunain.
Cafodd Rooms4U wobr a £1,000 yng Nghynhadledd One Big ddydd Iau 5 Hydref yng Ngwesty Metropole yn Llandrindod.
“Dw i wedi cyffroi’n lân bod Rooms4U wedi ennill Gwobr Mawr ei Bri Pat Chown. "Pan fo tenant ifanc yn dweud wrthych chi y buodd e’n yfed bob dydd ac yn dioddef iselder, ac y gwnaeth ystyried hunanladdiad, ond nawr mae’n teimlo’n grêt oherwydd bod ganddo gartref sefydlog gyda phobl o’r un anian lle y mae’n gynnes, mae’n bwyta’n dda ac mae wedi dechrau chwilio am swydd, mae’n bendant yn rhoi boddhad mawr i chi. “Mae’n gyffrous iawn gweld sut y bydd y project yn datblygu dros y misoedd nesaf wrth i ni geisio gwella gyda’r sector rhent preifat. Bydd y £1,000 yn mynd tuag at Fanc Bwyd y Fro yn y Barri i helpu pobl os byddan nhw’n wynebu anawsterau ariannol.” - Hazel Davies, Swyddog Project Rooms4U.
“Dw i wedi cyffroi’n lân bod Rooms4U wedi ennill Gwobr Mawr ei Bri Pat Chown.
"Pan fo tenant ifanc yn dweud wrthych chi y buodd e’n yfed bob dydd ac yn dioddef iselder, ac y gwnaeth ystyried hunanladdiad, ond nawr mae’n teimlo’n grêt oherwydd bod ganddo gartref sefydlog gyda phobl o’r un anian lle y mae’n gynnes, mae’n bwyta’n dda ac mae wedi dechrau chwilio am swydd, mae’n bendant yn rhoi boddhad mawr i chi.
“Mae’n gyffrous iawn gweld sut y bydd y project yn datblygu dros y misoedd nesaf wrth i ni geisio gwella gyda’r sector rhent preifat. Bydd y £1,000 yn mynd tuag at Fanc Bwyd y Fro yn y Barri i helpu pobl os byddan nhw’n wynebu anawsterau ariannol.”
- Hazel Davies, Swyddog Project Rooms4U.