Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 06 Mis Hydref 2017
Bro Morgannwg
Mae’r adroddiad gan y Cyng. Geoff Cox, sef yr Aelod Cabinet dros Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth, yn rhestru’r pryderon a godwyd mewn deiseb i Lywodraeth Cymru ac opsiynau’r Cyngor ar gyfer codi'r pryderon hynny gyda Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.
"Wrth gwrs, mae trigolion lleol yn bryderus iawn am y cynnig hwn ac er mwyn gwasanaethu eu lles, bydd y Cyngor hwn yn cymryd yr holl gamau posibl i sicrhau yr ymgymerir â’r holl asesiadau ang enrheidiol pan ac os aiff unrhyw ddyddodi deunyddiau yn ei flaen. “Rhoddwyd y drwydded gychwynnol gan CNC fwy na thair blynedd yn ôl a chodwyd pryderon ers hynny ynglŷn â digonolrwydd yr asesiad radiolegol yr ymgymerwyd ag ef ar y pryd. “Rwy’n credu bod gofyn o leiaf asesiad radiolegol mwy trylwyr, sy’n cynnwys mwy o samplo’r deunyddiau’n cael ei wneud i’r dyfnder cloddio llawn a thros yr ardal cloddion gyfan. “Rwyf hefyd yn bwriadu pwyso ar CNC a Llywodraeth Cymru i gynnwys arweinwyr pob awdurdod lleol yr effeithir arnynt fel y roddir llais yn y broses i'r trigolion hynny yr effeithir ar eu bywydau." - Cyng. Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg.
"Wrth gwrs, mae trigolion lleol yn bryderus iawn am y cynnig hwn ac er mwyn gwasanaethu eu lles, bydd y Cyngor hwn yn cymryd yr holl gamau posibl i sicrhau yr ymgymerir â’r holl asesiadau ang
enrheidiol pan ac os aiff unrhyw ddyddodi deunyddiau yn ei flaen.
“Rhoddwyd y drwydded gychwynnol gan CNC fwy na thair blynedd yn ôl a chodwyd pryderon ers hynny ynglŷn â digonolrwydd yr asesiad radiolegol yr ymgymerwyd ag ef ar y pryd.
“Rwy’n credu bod gofyn o leiaf asesiad radiolegol mwy trylwyr, sy’n cynnwys mwy o samplo’r deunyddiau’n cael ei wneud i’r dyfnder cloddio llawn a thros yr ardal cloddion gyfan.
“Rwyf hefyd yn bwriadu pwyso ar CNC a Llywodraeth Cymru i gynnwys arweinwyr pob awdurdod lleol yr effeithir arnynt fel y roddir llais yn y broses i'r trigolion hynny yr effeithir ar eu bywydau." -
Cyng. Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg.
Ar ôl cais a wnaed ym mis Awst 2012, rhoddwyd Trwydded Forol (12/45/ML) ym mis Gorffennaf 2014 gan NRW i NNB Genco, sy’n is-gwmni i EDF Energy, er mwyn gwaredu’r deunyddiau a droellwyd, yn codi o waith sy'n gysylltiedig â datblygiad gorsaf bŵer Hinkley Point.
Ni chafodd unrhyw ddeunydd o Hinkley Point ei ddyddodi ar safle Tiroedd Caerdydd eto ond mae’r drwydded yn parhau’n ddilys tan 4 Mawrth 2019 ac mae’n caniatáu i 304,885 tunnell gael eu ddyddodi ar y safle.