Cost of Living Support Icon

 

Tîm rheoli adeiladau Bro Morgannwg yn ennill yn y gwobrau rhanbarthol 

Mae tîm rheoli adeiladau y Fro wedi cyrraedd y rownd derfynol ar ôl ennill yng Ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladau Cymru Gyfan Rhanbarthol 2017. 

 

  • Dydd Iau, 26 Mis Hydref 2017

    Bro Morgannwg



Enillodd tîm Rheoli Adeiladau yn y Fro, gyda chymorth datblygwr David Frost, rhan o dy gategori Newid Defnydd Gorau Adeilad Presennol, yn y seremoni wobrwyo fis diwethaf.  

 

Rhoddwyd y wobr yn dilyn newid yr Hen Orsaf Dân yn Trumpton House, Court Road, Y Barri, adeilad rhestredig gradd 2, ar ôl i strwythur mawr yr adeilad ddioddef o bydredd sych a’r lloriau mewnol gwympo.

 

Caiff enwebiadau ar gyfer y gwobrau eu gwneud gan arolygwyr Rheoli Adeiladau’r cyngor, sy’n gyfrifol am oruchwylio'r projectau trwy gwblhau’r gwaith. 

 

after Trumpton house

 

“Rydym yn falch iawn o gael yr esiamplau hyn o ragoriaeth mewn adeiladu yma ym Mro Morgannwg.  Mae ein tîm Rheoli Adeiladau wedi ffurfio perthnasau gwaith cryf gyda’r diwydiant i ddarparu a hyrwyddo’r esiamplau hyn o Arfer Gorau ac mae’r Gwobrau hyn yn cydnabod gwaith caled ac ymrwymiad pawb sydd yn gysylltiedig â’r broses.” -Charles Hunter, Prif Arolygwr Rheoli Adeiladau ar gyfer Cyngor Bro Morgannwg,  

 

Mae David Frost a’r tîm wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladau Cenedlaethol 2017 fis nesaf.  

 

 

Diolchodd y tîm i’w noddwyr lleol am barhau i gefnogi’r gwobrau ar lefel leol, gan gynnwys Nina Estate Agents, ACD Skip & Recycling, The Vale Resort, The Glamorgan Gem a Jewson of Barry.

 


LABC chief executive Paul Everall, David Frost, and Colin Blick on behalf of the Welsh Government