Athrawon y Fro ymhlith saith yng Nghymru i ennill yn y Gwobrau Ysbrydoli Tiwtoriaid Oedolion Cenedlaethol
Mae dau o diwtoriaid Bro Morgannwg wedi ennill gwobrau Ysbrydoli am eu hymrwymiad a’u hymroddiad i’w disgyblion.
Enillodd Sarian Thomas-Jones, Tiwtor Dysgu Cymraeg yn y Fro, wobr Tiwtor y Flwyddyn ac enillodd Anne-Marie Edwards, sy'n dysgu ar y rhaglen Get Back on Track, Wobr Llais y Dysgwyr yng Ngwobrau ‘Ysbrydoli’ Tiwtoriaid Oedolion Cenedlaethol 2017.
Wedi’u trefnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, mae’r gwobrau’n dathlu llwyddiannau tiwtoriaid rhagorol ledled y wlad, sydd wedi dangos angerdd ac ymrwymiad arbennig yn eu gwaith o addysgu eraill.
Roedd y ddau diwtor, sy'n gweithio'n bennaf yng Nghanolfan Ddysgu Palmerston yn y Barri, ymhlith saith ledled Cymru a gafodd wobrau am eu gwaith yn adeilad Atriwm Caerdydd, Prifysgol De Cymru.
Mae Sarian Thomas-Jones yn gweithio fel tiwtor Cymraeg llawn amser, ar ôl dysgu’r iaith pan roedd yn oedolyn.
Dywedodd Sarian Thomas-Jones: “Roeddwn yn falch iawn o gael gwobr ac roedd cael fy enwebu gan ddisgyblion yn hyfryd, gan ei fod yn dod o'r galon.”

Mae Anne-Marie wedi bod yn addysgu yn Palmerston am dair blynedd, ar ôl cwblhau cwrs sgiliau cwnsela i oedolion a arweiniodd at ennill gradd sylfaenol mewn Cwnsela gyda'r Brifysgol Agored.
Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant: “Llongyfarchiadau mawr iawn i Anne-Marie a Sarian am eu llwyddiannau, ac mae cael eu dewis yn ddau allan o saith ledled y wlad yn deyrnged i’w gwaith caled.
“Fel cyngor, rydym yn falch o gefnogi’r tiwtoriaid hyn a’r dosbarthiadau y maent yn eu haddysgu yng nghanolfan oedolion Palmerston, ac rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo'r iaith Gymraeg ledled y Fro."
I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau i oedolion ledled y Fro, cymrwch olwg ar y wefan.