Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 23 Mis Tachwedd 2017
Bro Morgannwg
Cymrodd y disgyblion ran mewn gweithgareddau megis pleidleisio dros eu cynrychiolwyr; er enghraifft Gweinidog dros Chwaraeon a Gweinidog dros yr Amgylchedd.
Roedd Maer Bro Morgannwg, y Cyng. Janice Charles, ar gael i helpu’r Prif Weinidog i gynnal y cyfarfod, ynghyd â’r Cyng. Rachel Nugent-Finn.
Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, Aelod Cabinet dros Addysg: “Pleser oedd croesawu’r plant i Siambr y Cyngor i'w galluogi nhw i gynnal cyfarfod Senedd a defnyddio offer y cyngor. "Dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath, a gobeithiaf y bydd ysgolion eraill Bro Morgannwg yn dewis cymryd rhan yn y dyfodol.”
Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, Aelod Cabinet dros Addysg: “Pleser oedd croesawu’r plant i Siambr y Cyngor i'w galluogi nhw i gynnal cyfarfod Senedd a defnyddio offer y cyngor.
"Dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath, a gobeithiaf y bydd ysgolion eraill Bro Morgannwg yn dewis cymryd rhan yn y dyfodol.”
Trafododd y Senedd rolau cenhadon a phynciau’n ymwneud â llywodraeth leol a’r llywodraeth ganolog, ynghyd â nodau ac amcanion yr ysgol dros y flwyddyn i ddod.
Dywedodd y Pencampwr Ieuenctid, y Cyng. Leighton Rowlands, a oedd hefyd yn y digwyddiad: “Braf iawn oedd croesawu plant i Siambr y Cyngor i chwalu'r canfyddiad mai sefydliad diflas yw'r cyngor.”