Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 17 Mis Tachwedd 2017
Bro Morgannwg
Mae Swyddog Datblygu Celfyddydau Cyngor Bro Morgannwg a Chymunedau Gwledig Creadigol wedi bod yn gweithio gyda nifer o ymarferwyr crefft sydd wedi tynnu sylw at y ffaith bod angen rhwydwaith.
Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant: “Mae’n wych gweld timau o adrannau gwahanol yn gweithio ynghyd i gynnig ystod o gymorth ar gyfer cymunedau a busnesau ledled y Fro. “Rydym wrthi’n archwilio ffyrdd newydd o ddatblygu celf a diwylliant, ac mae’r digwyddiad hwn yn rhoi platfform delfrydol i ni i hybu celf trwy gyfryngau amrywiol, ac rwy’n annog unrhyw sydd â diddordeb i gymryd rhan yn y digwyddiad rhwydweithio.”
Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant: “Mae’n wych gweld timau o adrannau gwahanol yn gweithio ynghyd i gynnig ystod o gymorth ar gyfer cymunedau a busnesau ledled y Fro.
“Rydym wrthi’n archwilio ffyrdd newydd o ddatblygu celf a diwylliant, ac mae’r digwyddiad hwn yn rhoi platfform delfrydol i ni i hybu celf trwy gyfryngau amrywiol, ac rwy’n annog unrhyw sydd â diddordeb i gymryd rhan yn y digwyddiad rhwydweithio.”
Cynhelir digwyddiad rhwydweithio am ddim, yn galluogi pobl i gydweithredu ac archwilio cyfleoedd, yn Ystafelloedd Te Gerddi Dyffryn, yn Sain Nicolas, ddydd Iau 30 Tachwedd o 6pm.
Dywedodd Swyddog Cymunedau Gwledig Creadigol Nicola Sumner-Smith: “Credon ni fod hwn yn gyfle cyffrous i gefnogi'r gwaith o ddatblygu crefft yn y Fro wrth dynnu sylw at y dalent wych sydd gennym yma. "Rydym yn gobeithio y bydd ymarferwyr crefft o ystod eang o ddisgyblaethau a phrofiad yn dod ac yn meddwl bod y rhwydwaith yn adnodd gwerthfawr ar gyfer eu datblygu proffesiynol a phersonol.”
Dywedodd Swyddog Cymunedau Gwledig Creadigol Nicola Sumner-Smith: “Credon ni fod hwn yn gyfle cyffrous i gefnogi'r gwaith o ddatblygu crefft yn y Fro wrth dynnu sylw at y dalent wych sydd gennym yma.
"Rydym yn gobeithio y bydd ymarferwyr crefft o ystod eang o ddisgyblaethau a phrofiad yn dod ac yn meddwl bod y rhwydwaith yn adnodd gwerthfawr ar gyfer eu datblygu proffesiynol a phersonol.”
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, anfonwch e-bost neu gallwch gadarnhau eich bod yn dod ar dudalen ddigwyddiadau Facebook o’r enw ‘Cymunedau Gwledig Creadigol’.
Am fwy o wybodaeth, gallwch ffonio’r tîm Gwasanaeth Gwybodaeth I Deuluoedd ar 01446 704704.