Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 28 Mis Tachwedd 2017
Bro Morgannwg
Daeth deddfwriaeth a gyflwynodd y broses gofrestru landlordiaid a’r gofyniad i landlordiaid ac asiantau sy’n gosod a rheoli eiddo rhent yng Nghymru gael eu trwyddedu, i rym ar 23 Tachwedd 2015.
Rhoddodd y ddeddfwriaeth flwyddyn i’r bobl hynny oedd angen iddynt gydymffurfio wneud felly.
Cafwyd y landlord hunanreoli Damian Cross o Rodfa’r Gwagenni, y Barri, yn euog o fethu â chael ei drwyddedu i osod a rheoli gweithgareddau ar gyfer eiddo yn Beaconsfield, Romilly Road, y Barri.
Roedd Mr Cross wedi cofrestru’r eiddo ond heb wneud cais am drwydded. Methodd â thalu Hysbysiad Cosb Sefydlog am beidio â chydymffurfio, neu gyflwyno cais am drwydded neu benodi asiant.
Cafodd ddirwy o £660 am ddau drosedd dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, a gorchmynnwyd iddo dalu costau llys o £543 a thâl dioddefwyr o £33.
Dywedodd y Cyng. Hunter Jarvie, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ac Aelod o Bwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: “Mae blwyddyn wedi bod ers y dyddiad cau i bob landlord gydag eiddo yng Nghymru gofrestru, ac nid yw'n dderbyniol bod landlordiaid ac asiantau sydd yn dal i drio gweithio y tu allan i'r gyfraith hon. “Nid oes esgus i asiant masnachol beidio â chael ei gofrestru a'i drwyddedu, ac mae erlyn landlord heb drwydded o'r Barri yn brawf ein bod yn cymryd camau gweithredu. Rwy’n annog unrhyw landlordiaid sy’n defnyddio asiant masnachol i gadarnhau ei fod yn cydymffurfio â Rhentu Doeth Cymru.”
Dywedodd y Cyng. Hunter Jarvie, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ac Aelod o Bwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: “Mae blwyddyn wedi bod ers y dyddiad cau i bob landlord gydag eiddo yng Nghymru gofrestru, ac nid yw'n dderbyniol bod landlordiaid ac asiantau sydd yn dal i drio gweithio y tu allan i'r gyfraith hon.
“Nid oes esgus i asiant masnachol beidio â chael ei gofrestru a'i drwyddedu, ac mae erlyn landlord heb drwydded o'r Barri yn brawf ein bod yn cymryd camau gweithredu. Rwy’n annog unrhyw landlordiaid sy’n defnyddio asiant masnachol i gadarnhau ei fod yn cydymffurfio â Rhentu Doeth Cymru.”