Annog trigolion y Fro i Bleidleisio yn etholiad cyffredinol 2017 y DU
10 Mai 2017
Ym mis Mehefin, caiff trigolion y Fro y cyfle i ethol Aelod o Senedd y DU i’w cynrychioli yn eu hetholaeth.
Yn dilyn Etholiadau Lleol diweddar, mae trigolion Bro Morgannwg bellach yn cael eu hannog i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol ar 08 Mehefin 2017.
Cyn gwneud hynny, rhaid i drigolion sicrhau'n gyntaf eu bod wedi'u cofrestru i bleidleisio.
Os cofrestroch, neu os gwnaethoch gais i gofrestru, ar gyfer yr Etholiadau Lleol, ni fydd angen i chi ail-gofrestru ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol gerllaw.
Os nad ydych wedi cofrestru, gallwch wneud felly yn gov.uk/register-to-vote, hanner nos ar 22 Mai yw’r dyddiad cau.
I bleidleisio yn Etholiad Cyffredinol y DU, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru i bleidleisio ac:
- yn 18+ oed ar y diwrnod pleidleisio
- yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd cymwys y Gymanwlad neu ddinesydd o Weriniaeth Iwerddon
- ddim ag unrhyw anallu cyfreithiol i bleidleisio
Ni all y canlynol bleidleisio yn etholiad Senedd y DU:
- aelodau Tŷ'r Arglwyddi
- Dinasyddion yr UE (heblaw am y DU, Gweriniaeth Iwerddon, Cyprus a Malta) sy'n byw yn y DU
- unrhyw un heblaw am ddinasyddion Prydain, Iwerddon a dinasyddion cymwys y Gymanwlad
- pobl wedi’u heuogfarnu sydd yn y ddalfa yn canlyn eu dedfrydau, ac eithrio dirmyg llys (er y gall carcharwyr sydd yn ôl yn y ddalfa, carcharwyr heb eu heuogfarnu a charcharwyr sifil bleidleisio os ydynt ar y gofrestr etholiadol)
- unrhyw un a geir yn euog o arferion anghyfreithlon neu lwgr mewn cysylltiad ag etholiad yn y pum mlynedd diwethaf
Ar ôl i chi gofrestru i bleidleisio, gallech benderfynu sut rydych am fwrw pleidlais.
Mae tair ffordd y gallwch bleidleisio. Y gyntaf yw eich hun: Cewch gerdyn pleidleisio'n rhoi gwybod i chi pa orsaf bleidleisio i ymweld â hi ar 08 Mehefin, a byddwch yn bwrw’ch pleidlais yno.
Neu, gallech bleidleisio drwy’r post. I wneud hynny, rhaid eich bod wedi cyflwyno cais i gofrestru erbyn 22 Mai. Rhaid i'ch cais i bleidleisio drwy’r post ddod i law erbyn 5pm ar 23 Mai.
Yn olaf, gallwch bleidleisio drwy ddirprwy. Mae hyn yn golygu y gallech ddewis rhywun i bleidleisio ar eich rhan. Eto, rhaid eich bod wedi gwneud cais i gofrestru erbyn 22 Mai, a rhaid i chi gyflwyno’ch cais atom erbyn 5pm ar 31 Mai. Rhaid eich bod chi a'ch dirprwy wedi'ch cofrestru i bleidleisio er mwyn pleidleisio yn y modd hwn.
I lawrlwytho’r ffurflenni cais ar gyfer pleidlais bost neu drwy ddirprwy ewch i www.dybleidlaisdi.co.uk.
Gallwch fynd i www.dybleidlaisdi.co.uk neu ffonio 0800 3 280 280 i gael rhagor o wybodaeth.