Cadarnhau arweinyddiaeth wleidyddol Cyngor Bro Morgannwg
25 Mai 2017
Mae’r Cyng. John Thomas wedi cael ei benodi’n Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg yn dilyn pleidlais yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar 24 Mai.
Ochr yn ochr â’r Cyng. Thomas, mae’r Cyng. Hunter Jarvie wedi cael ei enwi’n Ddirprwy Arweinydd y Cyngor, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio fydd y Cyng. Jonathan Bird, mae'r Cyng. Bob Penrose wedi cael ei benodi’n Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant, tra bydd y Cyng. Andrew Parker yn gwasanaethu fel yr Aelod Cabinet dros Dai a Gwasanaethau Adeiladu. Yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden yw’r Cyng. Gordon Kemp, gyda’r Cyng. Geoffrey Cox yn ysgwyddo rôl yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth.
Yn dilyn y cyfarfod dywedodd y Cyng. Thomas: "Mae cael fy ethol yn Arweinydd y Cyngor yn anrhydedd mawr. Mae fy nghydweithwyr cabinet a minnau’n benderfynol o gyflawni ar ran pobl Bro Morgannwg.
“Mae’r cabinet newydd yn dod â phrofiad proffesiynol a gwleidyddol newydd i’r Cyngor a bydd yn cynnig yr arweinyddiaeth sydd ei hangen i lunio gwasanaethau sy’n addas ar gyfer y 21ain ganrif.
“Yn ogystal â darparu gwasanaethau cyhoeddus o safon uchel, bydd y Cyngor hwn yn gwneud hynny mewn dull sy'n sicrhau bod pobl leol wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.
“Byddwn yn canolbwyntio ar rwydwaith trafnidiaeth y Fro yn y lle cyntaf. Bydd adolygiad ac arfarniad newydd o seilwaith y sir yn dechrau cyn bo hir, gan roi sylw penodol i Ddwyrain y Fro. Byddwn hefyd yn gweithredu'n gyflym i wella'r ffordd y mae'r Cyngor yn cefnogi ein canol trefi a busnesau lleol.
“Y tu hwnt i’r Fro, byddaf yn gweithio i sicrhau bod y Cyngor hwn yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o lunio mentrau megis Bargen Ddinesig Caerdydd, er mwyn sicrhau bod yr ardal yn cael y cyllid y mae’n ei haeddu gan Lywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill.”
Cyhoeddwyd yn yr un cyfarfod mai Maer newydd Bro Morgannwg fydd y Cyng. Janice Charles. Caiff y Cyng. Charles ei chynorthwyo yn ystod ei blwyddyn o wasanaeth gan y Cyng. Leighton Rowlands a fydd yn Ddirprwy Faer.