Mission Impossible yn dangos eu bod yn anorchfygol ar ôl llwyddiant diguro yng nghynghrair Boccia
09 Mai 2017
Mae Mission Impossible, tîm Boccia Bro Morgannwg, wedi cael cyfnod aruthrol o lwyddiant sydd wedi arwain at ennill Cynghrair Boccia y Fro 2017.
Gan ennill pob gêm y chwaraeon nhw ynddi, ac osgoi hunanddinistr yn broses, enillodd Mission Impossible y gynghrair a ddechreuodd ym mis Chwefror.
Cymerodd sawl tîm Boccia ran yn y gynghrair, a redir gan dîm Chwaraeon a Datblygu Chwarae Cyngor Bro Morgannwg mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau lleol, gan gynnwys: the Boccia Rollers, Canolfan Ddydd Hengoleg, Canolfan Datblygu Sgiliau Sili SCOPE, SEND Scorpions a Chanolfan Ddydd Woodlands.
Yn Nghanolfan Adnoddau Hengoleg, rhannwyd y timau yn ddau grŵp, gyda’r timau gorau ym mhob is-gynghrair yn symud ymlaen i’r rownd nesaf.
Bu Mission Impossible a SEND Scorpions yn cystadlu yn y rownd derfynol, gyda’r ail yn ennill hanner ffordd trwy’r gêm. Er hynny, chwaraeodd Mission Impossible yn gryf iawn yn yr ail hanner i gipio’r teitl mewn gêm derfynol gofiadwy.
Roedd yn dymor go arbennig ar gyfer y tîm o Ganolfan Adnoddau Hengoleg, gan mai nhw oedd y tîm cyntaf ers 2013 i ennill pob gêm y chwaraeon nhw ynddi.
Yn ogystal, ar y diwrnod enillodd The Boccia Rollers Wobr Ysbryd Tim Dean Evans am eu hymagwedd rhagorol trwy'r gynghrair (roedd hyn yn cynnwys mynychu pob wythnos ac annog yr holl dimau a gymerodd ran) ac enilloedd Karen Roberts o'r Woodland Warriors Wobr Chwarae Teg Unigol Dilwyn Williams am lu o berfformiadau ysbrydol.
Camp anabledd yw Boccia lle mae chwaraewyr yn gwthio peli gyda’r nod o gael iddynt lanio mor agos â phosibl i'r bêl darged. Mae gan bob ochr chwe phêl (coch neu las), a chronnir pwyntiau yn ystod gêm i ganfod enillydd.
Dywedodd Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru Cyngor Bro Morgannwg, Simon Jones: “Mae safon Boccia yn parhau i wella blwyddyn ar ôl blwyddyn, ac mae’n bleser gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth ffyrnig lle mae pob chwaraewr yn dangos llawer o chwarae teg.
"Diolch i bawb sy'n helpu i gefnogi'r gynghrair a'i gwneud yn llwyddiant - heboch chi, ni fyddai modd cynnal y gystadleuaeth."
Os hoffech chi fwy o wybodaeth am Chwarae Anabledd ym Mro Morgannwg, cysylltwch â Simon Jones ar 01446 704728, neu sljones@valeofglamorgan.gov.uk.