Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mewn ymgais i helpu cymunedau gwledig ledled y Fro, mae tîm Cymunedau Gwledig Creadigol y Cyngor (CGC) ar fin dechrau cynllun peilot i alluogi cymunedau i ddod ynghyd a rhannu eu syniadau ynghylch adeiladu ysbryd cymunedol.
Gyda chynghorau tref a chymuned, cymdeithasau neuaddau pentref a chymdeithasau preswylwyr yn cael eu hannog i ddysgu gan eu profiadau ei gilydd, bydd y cynllun yn cynnig arian i grwpiau lleol i dreialu mentrau arloesol newydd sy’n dod â’r gymuned ynghyd yn rheolaidd.
Bydd y tîm CGC yn rhoi cefnogaeth, a chynnig arweiniad, trwy gydol y project a galluogi’r grŵp i ddatblygu eich syniad, a chreu dyfodol cynaliadwy.
Cafwyd esiamplau gwych o fentrau tebyg yn y gorffennol, megis sinema gymunedol Llancarfan, gaiff ei redeg gan wirfoddolwyr ac sydd wedi profi’n ffordd wych o ddwyn cymunedau ynghyd. Mae Project Rhandiroedd Cymunedol Treoes wedi cynnwys eu cymuned drwy rannu cyngor ar dyfu bwyd, tra bo marchnad fwyd fisol Llanbedr-y-fro a’r pantomeim blynyddol yn dwyn trigolion ynghyd gydol y flwyddyn.
Os oes syniad tebyg gennych chi y tybiwch a all ddwyn cymuned wledig ynghyd, cysylltwch â'ch tîm CGC i drafod eich syniadau drwy ffonio 01446 704226 neu drwy e-bostio create@valeofglamorgan.gov.uk.