Cost of Living Support Icon

Mae tîm Chwarae a Chwaraeon y Cyngor eisiau clywed gennych chi

 

20 Mehefin 2017

 

Mae gan drigolion Bro Morgannwg y cyfle i ddweud eu dweud ar ba weithgareddau y dymunant iddynt gael eu cynnal yn eu cymunedau, wrth i noson wybodaeth am chwaraeon ddod i Lanilltud Fawr.

 

Young batter and wicket keeperBydd tîm Datblygu Chwarae a Chwaraeon y Cyngor yn Neuadd Llantonian rhwng 3pm a 8pm ar 29 Mehefin i groesawu clybiau, gwirfoddolwyr ac aelodau cymunedol i ddod i gael sgwrs am ba weithgareddau sydd o ddiddordeb iddynt. 

 

Bydd y sesiwn hefyd yn rhoi cyfle i glybiau chwaraeon lleol drafod cyfleoedd ariannu, cyfleoedd i ddatblygu eu clybiau, dulliau marchnata a chysylltiadau ag ysgolion/clybiau eraill. 

 

Bydd y tîm Chwarae a Chwaraeon ar gael i drafod y cyfleoedd hyn, yn ogystal â manteision gwirfoddoli. Bydd y bobl hynny sy’n penderfynu gwirfoddoli, er enghraifft, yn gymwys i fanteisio ar ein cyrsiau a’n cyfleoedd hyfforddi am ddim.

 

If you would like to book a meeting with a member of the team, please email Jessica Abraham: jfabraham@valeofglamorgan.gov.uk.