Disgyblio Ysgol Gynradd Yns y Barri yn bwriadu rhoi hwb i dwristiaeth gyda llwybr cod QR
21 Mehefin 2017
Meddyliodd y plant am y syniad yn dilyn cais i ddatblygu project TGCh a fydda’i hybu eu gwaith a’u hardal leol.

Mae'n cynnwys codau QR yn cael eu gosod o gwmpas yr ynys sy’n cysylltu â thudalen ar wefan yr ysgol gyda gwybodaeth am y nodwedd benodol honno. Rhaid sganio’r codau â ffôn symudol i weld y wybodaeth hon.
Mae wyth cod wedi’u lleoli yn Eglwys St Baruc, y Goleudy, Bae Jackson, Nell’s Point, y Cae Ffair, Bae Whitmore, Friars Point a’r Hen Harbwr/Bae Watch Tower.
Mae’r project yn manteisio ar y wifi sydd ar gael yn Ynys y Barri, y traeth cyntaf yn y DU lle y mae hyn ar gael.
Meddai’r Pennaeth Matther Gilbert: “Y bwriad yw dathlu hanes lleol, lleoliadau allweddol a'u gweld trwy lygaid a dychymyg plant. Roedd y plant am helpu i ddenu twristiaid i’r ardal a defnyddio’r wifi gwych newydd a osodwyd gan Dave Vining, ein Cadeirydd Llywodraethwyr, a’r tîm TGCh yng Nghyngor Bro Morgannwg.
“Penderfynwyd cysylltu’r project â mentrau ysgolion iach sy’n annog plant i wneud mwy o ymarfer corff a gwella cyfleusterau dysgu yn yr awyr agored. Rydym yn teimlo ei bod yn gyfle cyffrous i rannu ysgrifennu plant ac i greu cyffro ynghylch Ynys y Barri i bobl o bob oedran. Bydd project o’r maint hwn yn cynnig dull cyffrous ac arloesol i’r genhedlaeth newydd o dwristiaid sy’n ymweld â’r Ynys.”
Meddai John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Mae plant Ysgol Gynradd Ynys y Barri wedi meddwl am syniad arloesol sy’n helpu i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleusterau modern sydd ar gael yn Ynys y Barri.
“Mae’r ynys wedi bod yn destun gwaith adfywio helaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf a hwn yw’r traeth cyntaf yn y DU i gynnig wifi. Mae gwaith o’r fath wedi helpu i roi hwb i apêl yr ynys gyda thrigolion a thwristiaid, ac mae’r llwybr stori diddorol llawn gwybodaeth hwn yn nodwedd arall y gall ymwelwyr ei mwynhau.”
Mae mwy o wybodaeth am y llwybr stori QR yma www.barryislandprimary.com.
