Cost of Living Support Icon

Merchant seaman memorialWythnos y Lluoedd Arfog

 

Cyhoeddwyd 16 Mehefin 2017

 

Bydd cynrychiolwyr o’r lluoedd arfog yn cynnal seremoni y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig o 10.45am ddydd Llun 19 Mehefin i nodi dechreuad Wythnos y Lluoedd Arfog 2017.

 

Bydd Gosgordd er Anrhydedd gan yr RAF o Wersyll Sain Tathan y Weinidogaeth Amddiffyn a Mintai o HMS Cambria yn gorymdeithio i’r cwrt blaen wrth ochr Cofeb y Morwyr Masnachol, ac yn y fan honno byddant yn rhoi saliwt cyffredinol, yn dangos eu harfau, ac yn codi banner y lluoedd arfog.

 

Bydd chynrychiolwyr o gymuned y Lluoedd Arfog yn ymuno â Maer Bro Morgannwg, y Cynghorydd Janice Charles.

 

Bydd band gwirfoddol yr RAF hefyd yn adlonni'r dorf, a bydd yn canu anthem genedlaethol y Deyrnas Unedig ac anthem genedlaethol Cymru yn ystod y seremoni.

 

Bro Morgannwg yw un o blith mwy na 450 o gynghorau a fydd yn codi’r faner fel rhan o ddathliadau ledled y Deyrnas Unedig i ddangos anrhydedd i luoedd arfog Prydain.