Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Gall ymwelwyr weld adrannau ar destunau megis buddsoddi, cyllid a chyngor.
Y nod yw gwella gallu grwpiau yn yr ardal a'u hannog i ddod yn fwy cynaliadwy.
Mae’r wefan hefyd yn darparu dolenni at adnoddau a sefydliadau cymorth busnes, ac mae’n tynnu sylw at y cyfleoedd cyllid a buddsoddi diweddaraf.
Bydd y wefan hefyd yn lle i gael y wybodaeth ddiweddaraf am Ardal Fenter y Fro a rôl yr awdurdod lleol ym Margen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
“Rydym ni’n gobeithio y bydd busnesau ac aelodau o'r gymuned yn ystyried y wefan yn adnodd defnyddiol ac yn lle canolog i gael gwybodaeth." - Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Adfywio a Chynllunio
Mae’r wefan ar ei newydd wedd yn rhan o strategaeth allgymorth, ac fe'i bwriedir ar gyfer cryfhau cysylltiadau rhwng y Cyngor a busnesau yn yr ardal.
Gwybodaeth, cyngor a chanllawiau ar gyfer eich busnes neu sefydliad, a’r holl gyfleoedd cyllid a phartneriaeth diweddaraf ym Mro Morgannwg a thu hwnt.
Cymorth Busnes