Llwyddiant wrth i fwy na 700 o ddisgyblion y Fro gwblhau hyfforddiant ar gynhwysiant anabledd
Mae plant ysgolion cynradd ledled y Fro wedi dysgu sut i gynnwys pawb mewn gweithgareddau dyddiol wedi’u trefnu gan Chwaraeon Anabledd Cymru.
26 Gorffennaf 2017
Mae mwy na 700 o ddisgyblion bellach wedi cwblhau’r Hyfforddiant ar Gynhwysiant Anabledd, ac mae trefnwyr yn gobeithio cynyddu hyn i 1,000 o ddisgyblion erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf.
Bwriad y cwrs yw dysgu mwy am yr hyn y gall plant, pobl ifanc ac oedolion anabl ei wneud yn ogystal â sut y gall plant gynnwys eu ffrindiau mewn gweithgareddau addysg gorfforol a gweithgareddau corfforol yn gyffredinol.
Lansiwyd y project ym mis Ionawr a chymerodd disgyblion o Ysgol Gynradd Gatholig St Helen, Ysgol Gynradd Gwenfo, Ysgol Gynradd Parc Jenner, Ysgol Gynradd Oakfield, Ysgol Gynradd Palmerston a Sain Tathan i gyd ran.
Mae'r llwyddiant hwn wedi'i weld ym mhob rhan o'r Fro ac mae grwpiau sgowtiaid lleol hefyd wedi dangos diddordeb mewn cymryd rhan.
Aelodau o 11eg Sgowtiaid Môr y Barri oedd y grŵp cyntaf i gwblhau’r hyfforddiant y tu allan i amgylchedd yr ysgol. Cwblhaodd ail a phedwerydd grŵp y Barry Beavers a grŵp cyntaf y Penmark Cubs y cwrs gan ennill eu bathodynnau ymwybyddiaeth o anabledd.
Bydd grŵp cyntaf y Penmark Cubs yn gwneud defnydd da o’r hyfforddiant gyda Sesiwn Saethu Cynhwysol yn hwyrach eleni.
“Siaredais â Chwaraeon Anabledd Cymru am siarad â disgyblion ysgol am hyfforddiant cynhwysiant anabledd a threialwyd y syniad yng Nghaerdydd. Neges y cwrs yw dangos ei bod yn iawn gofyn i rywun gwestiynau am y ffordd orau i’w gynnwys os nad ydych yn siŵr.
“Mae’r adborth rydym wedi’i gael wedi bod yn ardderchog, ac mae wedi bod yn wych gweld cymaint o ysgolion rhagweithiol ym Mro Morgannwg sydd am sicrhau bod gan bawb y cyfle i gymryd rhan mewn Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol.
“Targed cychwynnol y flwyddyn oedd rhoi hyfforddiant i 400 o ddisgyblion; rydym wedi bwrw’r targed hwn yn llwyr o ganlyniad i barodrwydd ysgolion a Grwpiau Sgowtiaid lleol.” - Dywedodd Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru Cyngor Bro Morgannwg, Simon Jones
Bydd Aelodau o Dîm Chwaraeon a Datblygu Chwaraeon Bro Morgannwg, Tom Howles a Lucy Mitchell, yn mynd i ysgolion cynradd yn y Flwyddyn Newydd i barhau i rannu syniadau ar sut y gall disgyblion gynnwys pawb mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol.
Mae cynlluniau ar waith i gynnal digwyddiadau cyhoeddus ym Mro Morgannwg yn ystod y tymor ysgol nesaf.
I ddysgu mwy am yr hyfforddiant, e-bostiwch Simon Jones, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru: