Bro diogelach yn cynnal diwrnod agored cymunedol am ddim yng ngorsaf dân y Barri
18 Gorffennaf 2017

Mewn diwrnod agored yng Ngorsaf Dân y Barri, y nod fydd dangos sut y mae gwasanaethau lleol yn helpu i wneud y Fro’n fwy diogel i drigolion ac ymwelwyr.
Bydd croeso i bawb yn y digwyddiad am ddim hwn a drefnir gan bartneriaeth Bro Diogelach, a bydd cyflwyniad enghreifftiol o wrthdrawiad traffig ffordd yn rhan ohono.
Mae tîm Bro Diogelach yn gweithio i greu amgylchedd mwy diogel ar gyfer pawb ac i sicrhau mai Bro Morgannwg yw un o’r lleoedd mwyaf diogel yn y wlad.
Ddydd Sul 23 Gorffennaf, bydd modd i blant fwynhau castell neidio, celf a chrefft, cyfle i gael paentio eu hwynebau, sioe hud a lledrith, a pherfformiad gymnasteg.
Yn ogystal â hynny, bydd modd i bobl gyffwrdd â nadroedd a madfallod mewn man ymlusgiaid.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 11am-3pm a bydd lluniaeth ar gael i’w brynu ar y diwrnod.
Bydd modd parcio am ddim ar safle Ysgol Uwchradd y Barri, Port Road West, gyferbyn â’r orsaf dân.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Karen Davies, rheolwr Datblygu Chwaraeon a Chwarae, ar 01446 704793.