Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae’r grŵp, sy’n cael eu hystyried yn un o dimau hedfan gorau’r byd, yn disgwyl dechrau ei berfformiad am hanner dydd.
Dywedodd John Buxton, Rheolwr Gyfarwyddwr Rheilffordd Twristiaid y Barri:
“Mae’r digwyddiad yn cael nawdd gan ein chwaer gwmni, Cambrian Transport Ltd. Yn ogystal, mae’n wych ein bod hefyd wedi sicrhau nawdd gan gwmnïau eraill a Masnachwyr Ynys y Barri eleni. “Mae’r arddangosfa yn fuddsoddiad ariannol sylweddol a thrwy rannu’r costau, y gobaith yw y bydd cymorth yn parhau ac y bydd modd i ni gynnal yr arddangosfa hedfan anhygoel yma’n flynyddol.”
“Mae’r digwyddiad yn cael nawdd gan ein chwaer gwmni, Cambrian Transport Ltd. Yn ogystal, mae’n wych ein bod hefyd wedi sicrhau nawdd gan gwmnïau eraill a Masnachwyr Ynys y Barri eleni.
“Mae’r arddangosfa yn fuddsoddiad ariannol sylweddol a thrwy rannu’r costau, y gobaith yw y bydd cymorth yn parhau ac y bydd modd i ni gynnal yr arddangosfa hedfan anhygoel yma’n flynyddol.”
Dywedodd Gordon Kemp, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden:
“Mae’n bleser gan Gyngor Bro Morgannwg helpu i ddenu'r Saethau Coch yn ôl i Ynys y Barri eto eleni. “Mae hyn yn dilyn gŵyl Ynys Tân y Barri rai wythnosau yn ôl, ac mae’n un o blith llawer o ddigwyddiadau ledled y Sir yr haf yma."
“Mae’n bleser gan Gyngor Bro Morgannwg helpu i ddenu'r Saethau Coch yn ôl i Ynys y Barri eto eleni.
“Mae hyn yn dilyn gŵyl Ynys Tân y Barri rai wythnosau yn ôl, ac mae’n un o blith llawer o ddigwyddiadau ledled y Sir yr haf yma."
Bydd Rheilffordd Twristiaid y Barri hefyd yn cynnal bws gwennol o’r maes parcio a theithio bob 20 munud o Hool Road a Gorsaf y Glannau i Orsaf Ynys y Barri rhwng 9.15am a 3.30pm.
£5 fydd y gost i ddefnyddio’r gwasanaeth parcio a theithio fesul car (hyd at 5 o bobl) neu £10 fesul cerbyd cludo criw ar gyfer rhwng 6 a 10 o bobl.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.barrytouristrailway.co.uk neu cysylltwch â John Buxton yn Rheilffordd Twristiaid y Barri drwy ffonio 01446 748816 neu drwy e-bostio john.buxton@cambriantransport.com