Y gwasanaethau rheoliadol yn mynd i'r afael a sgamio dros y ffon wrth i bedwar gael eu harestio
07 Gorffennaf 2017
Mae rhybudd wedi ei chyhoeddi i bobl sy’n byw ym Mhen-y-bont, Caerdydd a’r Fro, yn ystod mis Gorffennaf, sef Mis Ymwybyddiaeth Sgamiau.
Yn rhan o ymgyrch drwy Brydain, y neges yw ‘Chwaraewch eich rhan – Gweithredwch ar Sgamiau’, a'r bwriad yw atal pobl rhag cael eu twyllo gan y sgam diweddaraf.

Yn sgil ymchwiliad dwy flynedd gan Heddlu Dinas Llundain a thîm Miscrosoft, arestiwyd pedwar o bobl yn y DU y mis diwethaf.
Adroddodd Action Fraud, y ganolfan adrodd am dwyll a thwyll seiber, bod 35,000 o adroddiadau am dwyll drwy feddalwedd cyfrifiaduron wedi eu gwneud y llynedd.
Mae’r sgam yn cynnwys gwahanol bobl yn ffonio ac yn honni eu bod yn gweithio i BT a TalkTalk, cyn dweud eu bod wedi sylwi ar nam ar eich cyfrifiadur.
Maen nhw’n gofyn a gân nhw reoli eich peiriant o bell i drwsio'r nam, ac yn aml yn gosod delweddau sy'n dangos bod gan y cyfrifiadur firws. Weithiau, byddant yn gosod firws eu hunain.
Mae’r sgamwyr wedyn yn cynnig ffordd ddi-dâl o ddatrys y broblem, ond yn gofyn am fanylion cerdyn neu gyfrif banc.
Mae’r Tîm Diogelu yn y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wedi bod yn rhoi cyflwyniadau ar sgamiau a throseddau sy’n digwydd wrth garreg y drws.
Bydd y cyflwyniad nesaf yng Nghymdeithas Alzheimer Caerdydd ar Ddydd Mawrth 11 Gorffennaf.
Mae gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir nifer fechan o declynnau sy’n blocio galwadau ar gyfer pobl sy’n derbyn galwadau twyllodrus cyson.
Mae’r dyfeisiau yn helpu pobl sy’n agored i niwed a'r henoed drwy flocio galwadau gan rifau anghyfarwydd.
Os oes gennych gŵyn ynghylch sgamiau ffôn, rhowch wybod i Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040506, ac wedyn bydd Safonau Masnach yn asesu'r mater.
Dywedodd y Cynghorydd Dhanisha Patel, cadeirydd Cydbwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: “Yn ôl Action Fraud, oedran cyfartalog y bobl sy’n colli arian yn sgil y sgam hwn yw 62, a’r golled yn rhyw £600 ar gyfartaledd.
Mae ein Tîm Diogelu’n gweithio’n galed i ymwneud â thrigolion a phartneriaid allweddol er mwyn mynd i’r afael â thwyll dros y ffôn, yn ogystal â sgamiau drwy'r post a throsedd ar garreg y drws.
“Mae ein neges yn syml: peidiwch â gwneud unrhyw daliad dros y ffôn pan fo rhywun yn eich ffonio’n annisgwyl, a rhowch wybod i ni am y mathau o sgamiau y dowch ar eu traws er mwyn i ni allu rhybuddio pobl eraill, yn enwedig grwpiau mwyaf agored i niwed ein cymunedau."