Ynys tân yn cymryd drosodd Ynys Y Barri wrth i bobl alw'r digwyddiad eleni yn 'y flwyddyn orau hyd yn hyn'
25 Gorffennaf 2017
Bu i sioe ardderchog oleuo'r awyr yn Ynys y Barri wrth i'r Ynys Tân poblogaidd ddychwelyd am y bedwaredd flwyddyn!
Ddydd Sadwrn 22 Gorffennaf, daeth 5,000 o bobl i’r noson agored i baratoi at y digwyddiad dau ddiwrnod eleni.


Gyda strwythurau tân anferth, cimwch deg troedfedd o uchder, a pherfformiad tân gan Flame Oz, roedd yr ynys yn llawn o liwiau llachar a synau.
Cafwyd penwythnos yn llawn jazz o New Orleans gan y cerddorion Wonderbrass, Mr Wilson's second liners, ac roedd ychydig o gantorion tân yn perfformio hefyd.
Gwnaeth disgyblion Ysgol Gynradd Ynys y Barri arwain parêd llusernau, gyda draig enwog yn anadlu tân ar long Lychlynnaidd gyda Llychlynwyr blin!
Dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ddysgu a Diwylliant:
“Mae’r Cyngor wedi goruchwylio'r gwaith helaeth o adfywio Promenâd Ynys y Barri dros y blynyddoedd diweddar ac mae digwyddiadau fel hyn yn helpu i arddangos cymaint o le da ydyw.
“Rwy’n falch iawn bod cymaint wedi troi fyny i weld yr Ynys Tân. Daeth pobl o bell i'r Fro i weld y sioe! Mae hwn yn un o gyfres o ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal ar yr Ynys dros yr wythnosau nesaf ac rydym yn credu bod pob un yn rhaglen Penwythnosau Ynys y Barri'r un mor apelgar a llwyddiannus.”


Yr Ynys Tân oedd y cyntaf o sawl o ddigwyddiadau penwythnos yn Ynys y Barri sydd wedi'u trefnu ar gyfer haf 2017.
Bydd bandiau byw a cherddorion yn cymryd drosodd promenâd yr ynys ym Mhenwythnos Cerddoriaeth Stryd eleni, rhwng 29-30 Gorffennaf.
I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau’r haf ledled Bro Morgannwg, ewch i http://www.visitthevale.com/en/Events/Events.aspx