Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun 17 Gorffennaf 2017
Mae’r ardd yn cynnwys pedair ardal flodau gwylltion gyda chymysgedd o hadau gwahanol ym mhob un, un ai o’r trefi eu hunain neu flodau sy’n gysylltiedig â’r gwledydd. Mae byrddau dehongli dwyieithog yn disgrifio ethos gefeillio trefi ger pob gwely blodau yn ogystal â disgrifiad bychan o bob tref gefell.
Mae pedwar polyn baner yn chwifio baneri’r trefi gefell ac mae un yn chwifio baner Cyngor Bro Morgannwg.
Bu i ddirprwyon o'r grwpiau gefeillio trefi ymweld â’r ardd yn ddiweddar yn ystod Gŵyl Beats, Eats and Treats yn Ynys y Barri. Cawson nhw groeso gan Arweinydd a Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cyng. John Thomas a’r Cyng. Hunter Jarvie yn yr ardd.
Buon nhw hefyd yn trafod â’r Tîm Parciau a Gerddi a ddyluniodd a chreu’r gerddi hyfryd hyn.