Cyngor Bro Morgannwg yn rhoi hwb i Barry Town United AFC gyda gwelliannau i Barc Jenner
18 Gorffennaf 2017
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi rhoi hwb mawr i Barry Town United AFC yn dilyn eu dyrchafiad i Uwchgynghrair Cymru gyda gwaith pellach i wella Parc Jenner.

Mae bois Gavin Chesterfield yn paratoi i herio’r Uwchgynghrair unwaith eto ar ôl ennill teitl Adran Un Cynghrair Cymru y tymor diwethaf.
Daw hyn 4 blynedd yn unig ers i’r clwb gael ei dynnu mas o’r ail adran a’i orfodi i ymuno â haen isaf Cynghrair Cymru.
Gyda Barry Town United bellach yn ailadeiladu eu henw da ar y cae, mae Cyngor y Fro am roi hwb arall i’r clwb oddi ar y cae drwy eu galluogi i brydlesu bar ac ardal sgitls Parc Jenner.
Fel y mae eisoes wedi’i wneud gyda Lolfa Jenner, mae’r clwb yn bwriadu adnewyddu’r ardaloedd hyn i safon uchel a chreu ardal y gall y clwb a'r gymuned ehangach ei defnyddio.
Gobeithio y bydd hyn yn cynyddu apêl y clwb, yn helpu i ddenu mwy o gefnogwyr ac yn cynyddu refeniw.
Mae yna gyfle hefyd i’r cyfleusterau gael eu defnyddio gan y gymuned ar gyfer digwyddiadau preifat.
Mae preswylwyr wedi codi pryderon ynghylch y cynnydd yn y galw am lefydd parcio oherwydd llwyddiant Barry Town United a’r defnydd mawr o gyfleusterau Parc Jenner.
Er mwyn mynd i’r afael â hyn, bydd Devon Avenue yn cael ei defnyddio’n fwy ar ddiwrnodau gêm, ac mae'n bosibl y caiff mwy o lefydd eu creu i'r timau oddi cartref yn Nepo Llys y Cyngor ar ôl i gontractwyr sy'n gweithio ar broject arall ar y safle adael yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Efallai y bydd hi hefyd yn bosibl creu maes parcio newydd ar safle'r cyn-Amwynder Dinesig yn Court Road pan fydd digwyddiadau penodol yn cael eu cynnal ym Mharc Jenner.
Dyma’r cam diweddaraf y mae’r Cyngor wedi’i gymryd i gefnogi Barry Town United, gyda’r ddau’n cydweithio’n agos wrth i’r clwb frwydro’n ôl yn dilyn amser caled.
Gosodwyd cae 3G modern newydd yn 2015 yn dilyn buddsoddiad chwe ffigur gan y Cyngor, gan alluogi Barry Town United a’r gymuned ehangach i fwynhau cyfleusterau o’r radd flaenaf.
Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Rydyn ni wrth ein bodd o ddod i gytundeb unwaith eto gyda Barry Town United. Gobeithio y bydd yn helpu’r clwb i barhau â’r campau rhagorol y maent wedi'u cyflawni dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. “Mae Barry Town United yn bwysig i’r gymuned leol, a bydd y Cyngor yn gwneud popeth yn ei allu i helpu'r clwb i lwyddo. Mae’r tîm cyntaf yn codi proffil y Barri drwy gystadlu ar y lefel uchaf yng Nghymru, ac mae'r timau amrywiol i ferched a phobl ifanc yn chwarae rôl bwysig iawn yn yr ardal. Maent hefyd yn hyrwyddo ffyrdd iach o fyw; rhywbeth y mae’r Cyngor yn ei gefnogi i’r carn.”
Dywedodd Rheolwr Barry Town United AFC, Gavin Chesterfield: “Hoffwn ddiolch i Gyngor Bro Morgannwg am eu cefnogaeth barhaus i’n clwb ac i chwaraeon ym Mro Morgannwg yn gyffredinol. Wrth i ni nesáu at ein tymor cyntaf yn ôl yn Uwchgynghrair Cymru, mae’r newyddion hwn yn hwb mawr i’n seilwaith oddi ar y cae. Gyda dros 600 o aelodau yn chwarae, bydd ailagor y darn hwn o'r clwb yn gwella ein profiad ni a phrofiad y gymuned oddi ar y cae.”
