Y Cyngor i ystyried dewisiadau ar ddyfodol trafnidiaeth yn Ninas Powys
Mae datrysiad tymor hir i’r tagfeydd traffig yn Ninas Powys i gael eu hystyried gan gabinet Cyngor Bro Morgannwg yn ddiweddarach y mis hwn, yn dilyn cyhoeddi canlyniadau astudiaeth ddiweddar o’r broblem.
Ystyriwyd dau ddatrysiad gan adroddiad Rhwydwaith Trafnidiaeth Dinas Powys WelTAG (Canllaw Gwerthuso Trafnidiaeth Cymru ) Cam 1 a ariannwyd ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru a’i baratoi gan Acadis Consulting Ltd.
Mae un yn ateb “aml-foddol” a fyddai’n cydio gwelliannau tymor byr, canolig a hir dymor i wasanaethau rheilffyrdd a bysiau ynghyd â chynlluniau beicio a cherdded a gwelliannau i gyffyrdd allweddol.
Y llall yw adeiladu ffordd osgoi newydd i’r de a’r dwyrain o Ddinas Powys. Ar gyfer y dewis hwn mae’r adroddiad yn amcanu cyswllt lôn gerbydau unffordd yn cysylltu’r Barri a chyffordd y Merrie Harrier ym Mhenarth.
Mae’r adroddiad yn nodi efallai y gallai’r ffordd osgoi leihau amseroedd teithio lleol, byddai angen gwelliannau cyffyrdd sylweddol i wneud unrhyw ffordd newydd yn ddichonadwy a byddai angen cynnwys cysylltiadau ‘teithio llesol’ ar gyfer cerdded a beicio ar ben hynny.
Roedd yr adroddiad hefyd yn cydnabod na fyddai ymagwedd ‘gwneud cyn lleied ag sydd raid’ lle mae’r Cyngor yn parhau i ddefnyddio’r cyllid sydd ar gael yn datrys y broblem dagfa sylfaenol.
Dywedodd y Cyng John Thomas, Arweinydd y Cyngor: “Mae problem barhaus y tagfeydd yn Ninas Powys o’r diwedd yn cael y sylw y mae’n ei haeddu. Mae hwn yn fater y gwn sydd o bwys mawr i breswylwyr lleol ac yn un y gall cynghorwyr lleol fynd i’r afael ag ef.
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn benderfynol o chwarae ei ran yn cyflawni hyn ac fe gaiff y ddau ddewis a gynigwyd eu craffu arnynt yn fanwl ac fe gaiff cynlluniau manwl ar gyfer y ddau ddewis eu creu fel bod modd gwneud gwerthusiad terfynol.
“Yr hyn y mae’r adroddiad hwn yn ei wneud yn glir yw na all un sefydliad ar ei ben ei hun roi’r datrysiad sydd ei angen ar yr ardal. Dyma pam y byddwn nawr yn ceisio gweithio’n agosach gyda Llywodraeth Cymru, aelodau etholedig lleol ac unrhyw bartïon eraill â diddordeb i nodi’r cyllid sydd ei angen ar y project hwn.”
Dywedodd y Cyng Geoffrey Cox, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaethol a Thrafnidiaeth: “Mae’r adroddiad cychwynnol hwn yn dweud wrthym fod dau ddatrysiad posib ar gyfer y problemau traffig hirhoedlog yn Ninas Powys a dwyrain y Fro. Y mwyaf trawiadol yw’r cynnig am ffordd osgoi. Mae hwn ynghyd â’r dull aml-foddol, bellach dan ystyriaeth ac rwy’n edrych ymlaen i ddod ag adroddiad mwy manwl ar y ddau ddewis i’r Cabinet yn ddiweddarach eleni.”
Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried y dewisiadau yn ffurfiol ar 31 gorffennaf 2017. Adroddiad llawn ar gael ar-lein