Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Codwyd pryderon gan breswylwyr Trwyn y Rhws yn ddiweddar ar ôl i grwpiau o bobl ifanc gasglu wrth y lagwnau ac achosi aflonyddwch.
Mae neidio a nofio yn y lagwnau yn beryglus iawn ac wedi’i wahardd trwy is-ddeddf am y rheswm hwn yn benodol.
Mynychodd tua 50 o breswylwyr lleol y digwyddiad ymgysylltu â’r gymuned yn Nhrwyn y Rhws ddydd Llun 10 Gorffennaf, lle cawsant gyfle i drafod unrhyw faterion neu bryderon a all fod ganddynt â’r awdurdodau.
Dywedodd Miles Punter, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Gwasanaethau Tai Cyngor Bro Morgannwg: “Roeddem eisiau dangos i breswylwyr lleol bod y Cyngor yn gweithio gyda Heddlu De Cymru a sefydliadau eraill i fynd i’r afael â’r mater hwn. "Rhoddodd y digwyddiad yr wythnos ddiwethaf y cyfle i breswylwyr rannu eu pryderon ac i ni gasglu mwy o wybodaeth a fydd yn ein galluogi i fynd i’r afael â’r math hwn o ymddygiad gydol yr haf. Mae is-ddeddfau wedi’u creu a ffensys ychwanegol wedi'u gosod ar ben y clogwyni i sicrhau bod mynediad i'r mannau uchaf yn fwy anodd ond ni fydd hyn yn datrys y broblem yn gyfan gwbl. "Mae’n bwysig ymgysylltu â'r bobl ifanc dan sylw i ddangos effaith eu gweithredoedd, yn hytrach na cheisio’u gwahardd, a bydd y wybodaeth a geir gan breswylwyr yn ein cynorthwyo i wneud hyn. Am nawr, rydym wedi pwysleisio pa mor bwysig yw hi i breswylwyr lleol sy’n gweld unrhyw ymddygiad o’r fath roi gwybod am y mater i’r heddlu ar unwaith. "Bydd ein tîm diogelwch cymunedol hefyd yn trefnu digwyddiadau tebyg mewn rhannau eraill o’r Fro, megis Llanilltud Fawr a Phenarth Uchaf, yn ddiweddarach yr haf hwn i rannu’r neges ynghylch ymdrochi a diogelwch cyhoeddus. "Yn y digwyddiad hwn rhoddodd ein tîm Diogelwch Cymunedol wybodaeth ar asesiadau cyflymderau traffig diweddar ar Drwyn y Rhws gan roi cyngor ar sefydlu cynllun Gwylio’r Gymdogaeth.”
Dywedodd Miles Punter, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Gwasanaethau Tai Cyngor Bro Morgannwg: “Roeddem eisiau dangos i breswylwyr lleol bod y Cyngor yn gweithio gyda Heddlu De Cymru a sefydliadau eraill i fynd i’r afael â’r mater hwn.
"Rhoddodd y digwyddiad yr wythnos ddiwethaf y cyfle i breswylwyr rannu eu pryderon ac i ni gasglu mwy o wybodaeth a fydd yn ein galluogi i fynd i’r afael â’r math hwn o ymddygiad gydol yr haf. Mae is-ddeddfau wedi’u creu a ffensys ychwanegol wedi'u gosod ar ben y clogwyni i sicrhau bod mynediad i'r mannau uchaf yn fwy anodd ond ni fydd hyn yn datrys y broblem yn gyfan gwbl.
"Mae’n bwysig ymgysylltu â'r bobl ifanc dan sylw i ddangos effaith eu gweithredoedd, yn hytrach na cheisio’u gwahardd, a bydd y wybodaeth a geir gan breswylwyr yn ein cynorthwyo i wneud hyn.
Am nawr, rydym wedi pwysleisio pa mor bwysig yw hi i breswylwyr lleol sy’n gweld unrhyw ymddygiad o’r fath roi gwybod am y mater i’r heddlu ar unwaith.
"Bydd ein tîm diogelwch cymunedol hefyd yn trefnu digwyddiadau tebyg mewn rhannau eraill o’r Fro, megis Llanilltud Fawr a Phenarth Uchaf, yn ddiweddarach yr haf hwn i rannu’r neges ynghylch ymdrochi a diogelwch cyhoeddus.
"Yn y digwyddiad hwn rhoddodd ein tîm Diogelwch Cymunedol wybodaeth ar asesiadau cyflymderau traffig diweddar ar Drwyn y Rhws gan roi cyngor ar sefydlu cynllun Gwylio’r Gymdogaeth.”