Llyfrgell plant yn ail-agor ar gyfer her ddarllen yr haf 2017
24 Gorffennaf 2017
Mae llyfrgell plant Penarth wedi ail-agor gyda dros 11,000 o lyfrau ar gael i'w benthyg.
Mae llyfrgell plant dros dro wedi bod ar waith ar y llawr daear, ond ar ôl bron iawn chwe mis o waith cynnal a chadw mae’n barod i ail-agor i bawb ei mwynhau.
Asiant-Anifeiliaid yw thema her ddarllen yr haf eleni, gyda’r nod o annog plant i ddarllen chwe llyfr dros wyliau’r haf, gyda sticeri a gwobrau.
Roedd yr awdur plant Mike Church yn bresennol yn yr ail-lansiad ddydd Iau, 20 Mehefin, ynghyd â beics paentio o Pedal Emporium, sy'n gweithio ar greu cynhyrchwyr beics Pedal Power.
Gwnaeth y plant gymysgu lliwiau paent gwahanol mewn drwm yn gysylltiedig â phob beic paent, cyn cymryd eu tro i bedalu mor gyflym â phosib i greu campwaith!
Bydd digwyddiadau megis Tots Treasure a Rhyme and Sign yn cael eu cynnal yn y llyfrgell yr haf hwn ar ôl symud i Bafiliwn y Pier yn ystod y gwaith trwsio.
Bydd Clwb Baby Latte yn cwrdd yn y llyfrgell ac yn rhoi cymorth a chyngor i famau newydd ar fronfwydo.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant, a fydd yn mynychu’r digwyddiad ail-agor:
“Mae'n wych bod y llyfrgell plant hwn yn gallu agor mewn amser ar gyfer Her Ddarllen yr Haf, gan fod hyn a nifer o ddigwyddiadau eraill yn gyfleoedd da iawn i annog plant i ddarllen dros wyliau'r haf.
“Da iawn i bawb oedd ynghlwm wrth weithio ar yr ail-agoriad, ac mae’r digwyddiadau newydd yn ffordd dda iawn o gael mwy o bobl i gymryd rhan yn y gymuned.”
Am ragor o wybodaeth am lyfrgelloedd y Fro, ewch i http://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/enjoying/Libraries/Libraries-in-the-Vale.aspx