Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae tad wedi datgelu sut y mae ei fywyd wedi newid er gwell o ganlyniad i raglen a ddarperir gan Gyngor Bro Morgannwg sy’n estyn allan i gefnogi teuluoedd sydd dan anfantais ar draws y Sir.
Cynhaliwyd diwrnod llawn hwyl yng Nghanolfan Hamdden Holm View ddydd Mercher diwethaf i nodi pen-blwydd Dechrau'n Deg yn 10 oed.
Mae Dechrau’n Deg Cymru yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n canolbwyntio ar weithio â theuluoedd â phlant dan 4 oed yn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Mae ‘Dad’s Base’ yn un o nifer o grwpiau a grëwyd gan Dechrau’n Deg gyda’r bwriad o estyn allan at dadau sy’n byw yn y Fro.
Mae’r grŵp yn cwrdd yng Nghanolfan Hamdden Holm View unwaith yr wythnos ac yn cynnig y cyfle i dadau gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau, a mynychu cyrsiau hyfforddiant a fydd yn eu helpu i ddatblygu ac ennill sgiliau newydd.
Denodd y diwrnod llawn hwyl 180 o deuluoedd ar draws y Fro, y cefnogwyd pob un ohonynt gan Dechrau’n Deg dros y blynyddoedd.
Rhoddwyd gwobrau raffl gan fusnesau lleol ac roedd y diwrnod yn llwyddiant, er gwaethaf y ffaith y newidiwyd y lleoliad ar y funud olaf.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd y rhaglen ei bod wedi cefnogi a chydweithio â mwy na 37,000 o blant a’u teuluoedd ar draws Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf - cynnydd o bedwar y cant o’r targed ar gyfer y flwyddyn.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden, y Cynghorydd Gordon Kemp: "Mae llwyddiant y diwrnod llawn hwyl i nodi pen-blwydd Dechrau'n Deg yn 10 oed, gyda 180 o deuluoedd yn bresennol, yn dangos cymaint y gwerthfawrogir gwaith caled y tîm ar draws y Fro. "Fel Cyngor, rydym ni’n falch o allu darparu’r gwasanaeth hwn ac mae’n glir pa mor fuddiol ydyw ar gyfer trigolion. Rydym ni’n gobeithio y gall Dechrau’n Deg barhau i fod mor effeithiol wrth helpu teuluoedd yn ein cymuned yn y dyfodol."
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden, y Cynghorydd Gordon Kemp:
"Mae llwyddiant y diwrnod llawn hwyl i nodi pen-blwydd Dechrau'n Deg yn 10 oed, gyda 180 o deuluoedd yn bresennol, yn dangos cymaint y gwerthfawrogir gwaith caled y tîm ar draws y Fro.
"Fel Cyngor, rydym ni’n falch o allu darparu’r gwasanaeth hwn ac mae’n glir pa mor fuddiol ydyw ar gyfer trigolion. Rydym ni’n gobeithio y gall Dechrau’n Deg barhau i fod mor effeithiol wrth helpu teuluoedd yn ein cymuned yn y dyfodol."
I gael rhagor o wybodaeth neu i gysylltu â Dechrau’n Deg Cymru, anfonwch e-bost i flying.start@wales.gsi.gov.uk