Enwebwyd: Gwirfoddolwyr Cefn Gwlad Cosmeston
Mae gwaith Gwirfoddolwyr Cefn Gwlad Cosmeston yn cyd-fynd â’r gwaith parhaus o ddatblygu Parc Gwledig Llynnoedd Parc Cosmeston, a agorwyd i’r cyhoedd yn 1978 ac a ddynodwyd yn Warchodfa Natur Leol yn 2013.
Mae Gwirfoddolwyr Cefn Gwlad Cosmeston yn ymwneud â: rheoli cynefin, gwaith ar y coetiroedd, torri a rhacanu tir glaswelltog, ail-arwynebu llwybrau troed a gosod gatiau a chamfeydd. Mae ceisiadau i ymuno â’r gwirfoddolwyr wedi cynyddu’n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae’r gwirfoddolwyr yn dod o gefndiroedd amrywiol, ac mae ganddynt wahanol sgiliau a galluoedd. Gan fod nifer y gwirfoddolwyr yn cynyddu, mae angen offer ychwanegol i alluogi’r tîm i barhau â’u gwaith gwerthfawr am flynyddoedd i ddod. Yn ôl y gwirfoddolwyr, mae bod yn aelod o’r tîm wedi cynyddu eu lefel o weithgaredd corfforol, eu hysgogi i adael y tŷ a chwrdd â phobl eraill, ac wedi gwneud gwahaniaeth gweladwy i’w cymuned leol.