Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Bydd Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GGM) yn cynnal y Ffair Wirfoddoli FAWR ddyddMercher 18 Ionawr 2017 o 11am i 4pm yn Neuadd Goffa’r Barri. Dewch draw i’r Ffair Wirfoddoli Fawr i fwynhau antur newydd fel gwirfoddolwr ac agor y drws i fyd o gyfleoedd. Bydd yna amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli, gan gynnwys: Iechyd Meddwl, Camddefnyddio Sylweddau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Codi Arian, Gweinyddu, Cymorth Cyntaf, Llyfrgelloedd Cymunedol, Gyrru, Gwaith Ieuenctid, Cymorth i Blant a Theuluoedd a mwy...
Mae gwirfoddoli’n rhan fawr o fywyd ym Mro Morgannwg; mae’n ffordd dda o ddod i nabod eich cymuned, cwrdd â phobl newydd a chael profiadau newydd. Byddwch hefyd yn gwella’ch cyfle o ddod o hyd i waith â thâl. Galwch draw ar y dydd - byddwch yn siŵr o gael croeso cynnes. Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â GGM:
Rhif Elusen Gofrestredig 1163193